Ysgrifennydd y Cwmni / Dirprwy Ysgrifennydd y Cwmni

Rydym yn chwilio am Ysgrifennydd y Cwmni/Dirprwy Ysgrifennydd y Cwmni yng Nghymru

Pwrpas y swydd

Mae’r rôl yn rhan hanfodol o’r gwaith o hyrwyddo safonau uchel o ran llywodraethu corfforaethol ar draws Grŵp Banc Datblygu Cymru a sicrhau llif gwybodaeth da rhwng Cyfarwyddwyr Banc Datblygu Cymru ccc, ei Bwyllgorau a’r Uwch Dîm Rheoli. 

Gyda mwy o ffocws yn ddiweddar ar lywodraethu corfforaethol, mae’r rôl yn galw am unigolyn sydd â gwybodaeth drylwyr am yr amgylchedd busnes y mae Grŵp Banc Datblygu Cymru yn gweithredu ynddo yn ogystal â’r cyfreithiau, y rheolau a’r rheoliadau sy’n rheoli ei weithgarwch presennol yn ogystal â gweithgarwch arfaethedig.  

Rhaid i ddeiliad y swydd allu perfformio’n effeithiol ar lefel Bwrdd, is-bwyllgorau’r Bwrdd a’r Pwyllgor Buddsoddi.

Bydd deiliad y swydd wedi cael profiad digon eang a dwfn i weithredu’n annibynnol a bydd ganddynt y deallusrwydd emosiynol i ymdrin â materion heriol a chyfrinachol iawn mewn ffordd broffesiynol a sensitif.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Bod yn gyfrifol am weithrediad llyfn prosesau adrodd a gwneud penderfyniadau ffurfiol y Banc Datblygu.
  • Hyrwyddo amgylchedd lle cydnabyddir bod llywodraethu corfforaethol a chydymffurfiaeth yn allweddol i weithrediad priodol gweithgareddau Grŵp Banc Datblygu Cymru a chyflwyno newidiadau i wella polisïau a gweithdrefnau perthnasol wrth iddynt godi. 
  • Chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynhyrchu’r adroddiad blynyddol, gan gynnwys drafftio a phrawf ddarllen.
  • Argymell amrywiadau i ddogfennau cyfreithiol fel rhan o’r broses o ddatblygu contractau rheoli cronfeydd.   
  • Rhoi cyfarwyddyd i gynghorwyr cyfreithiol ar faterion rheoleiddio ac, yn ôl y gofyn,  ymgysylltu ar ran y Cyfarwyddwyr â chynghorwyr arbenigol eraill.
  • Mynychu a drafftio papurau, agendâu a sleidiau cofnodion ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd, cyfarfodydd Pwyllgorau a’r Pwyllgor Buddsoddi. 
  • Sicrhau bod pob endid o fewn Grŵp Banc Datblygu Cymru yn gweithredu o fewn cwmpas eu caniatâd neu’n gweithredu o dan eithriadau priodol yn unol â Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000.
  • Drafftio a diweddaru cylch gorchwyl, polisïau a dogfennau llywodraethu eraill yn ôl yr angen.
  • Cysylltu â Thîm Partneriaeth Grŵp y Banc Datblygu yn Llywodraeth Cymru ar faterion lle mae angen cymeradwyaeth neu gydweithrediad gan gyfranddalwyr, gan gynnwys adolygu a chynnal Dogfen Fframwaith Banc Datblygu Cymru/Llywodraeth Cymru.
  • Darparu cyngor technegol arbenigol i Gyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol mewn perthynas â’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau o dan Ddeddfau Cwmnïau, gofynion Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU a deddfwriaeth berthnasol arall sy’n berthnasol i Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Ymgorffori cwmnïau newydd Grŵp Banc Datblygu Cymru yn ôl y galw a rhoi sylw i holl ffeiliau Tŷ’r Cwmnïau.
  • Cynnal cofrestriadau Dynodwr Endid Cyfreithiol y Banc Datblygu.
  • Unrhyw dasg arall a allai fod yn ofynnol i ddiwallu anghenion gweithredol Grŵp Banc Datblygu Cymru.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Gwybodaeth am gyfraith cwmnïau, gofynion statudol a rheoleiddiol sy’n ymwneud â’r sector gwasanaethau ariannol.
  • Dealltwriaeth fanwl o ofynion llywodraethu corfforaethol a gweithrediad mentrau sy’n eiddo i’r wladwriaeth/cyrff cyhoeddus hyd braich, strwythurau rheoli cronfeydd gan gynnwys cyfryngau at ddibenion arbennig a phartneriaethau cyfyngedig.
  • Cymwysterau proffesiynol yn unol â’r gofynion ar gyfer cwmni cyfyngedig cyhoeddus fel y nodir yn a273 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
  • Yn graff yn dechnegol gyda sgiliau rhyngbersonol cryf.
  • Gallu cydweithio ag eraill ac yn ennyn parch i ddylanwadu ar lefel Bwrdd. 
  • Gallu gwneud sawl tasg yn rhagweithiol gydag agwedd gadarnhaol.
  • Hyderus, cadarn, annibynnol ac yn barod i herio a chael eich herio.
  • Rhoi sylw trylwyr i fanylion ac yn gallu derbyn a phrosesu llawer iawn o wybodaeth.
  • Sgiliau trefnu rhagorol ac yn gallu blaenoriaethu eu llwyth gwaith.
  • Sgiliau cyfathrebu cryf ac yn gallu delio’n effeithiol/ddiplomatig gydag amrywiaeth eang o bobl ar bob lefel, yn fewnol ac allanol.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol ac yn gallu cofnodi’n gywir ac yn gryno a chyfleu materion cymhleth.
  • Gallu cymell eich hun gydag agwedd hyblyg at waith.
  • Meddwl yn arloesol.
  • Aelod da o dîm.

Dymunol

  • Dealltwriaeth dda o Grŵp Banc Datblygu Cymru, ei nodau, ei amcanion a’i gynhyrchion.
  • Profiad mewn amgylchedd Ariannol/Cyfreithiol/Cydymffurfio.
  • Gwybodaeth am Lawlyfr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, yn enwedig adrannau FUND, SYSC, SUP, CASS a CON.
  • Gwybodaeth am y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, Cyfarwyddeb Rheolwyr Cronfeydd Buddsoddiadau Amgen a’r Gyfarwyddeb Credyd Morgeisi.
  • Gwybodaeth am faterion cydymffurfio cyfredol yn sector gwasanaethau ariannol y DU.
  • Gwybodaeth am Drefn Rheoli Cymhorthdal y DU.
  • Cymhwyster proffesiynol yn ymwneud â’r gyfraith, cyfrifyddu neu fusnes.
  • Yn hyddysg ym maes TG/cyfrifiadura.
  • Gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Trwydded yrru lawn.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru