Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Coronafirws: pa gefnogaeth sydd ar gael i Fusnesau Cymreig?

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
COVID-19
Ariannu
coronavirus

Diweddarwyd ddiwethaf 15/04/2020.

Mae busnesau ledled y DU yn wynebu her ddigynsail oherwydd yr achosion o coronafirws. Yn ffodus, mae cefnogaeth ar gael i helpu cwmnïau i liniaru'r effaith fasnachol.

Yng Nghyllideb 2020, cyhoeddodd y Canghellor lu o fesurau ariannol i helpu busnesau y mae Cofid-19 yn effeithio arnynt, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i fusnesau yng Nghymru.

Darllenwch ymlaen i gael trosolwg o'r hyn y mae Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru, a llywodraeth y DU, yn ei gynnig i fusnesau. Bydd rheoli llif arian yn holl bwysig yn ystod yr wythnosau nesaf ac mae paratoi yn allweddol. Os credwch y bydd eich busnes yn dod o dan straen ariannol oherwydd y coronafirws, dylech weithredu cyn gynted â phosibl.

Beth ydyn ni'n ei wneud i helpu ein cwsmeriaid?

Gwyliau ad-dalu o 3 mis

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym yn ymwybodol y bydd rheoli llif arian yn bryder brys, felly rydym yn cynnig gwyliau ad-dalu ffioedd cyfalaf a monitro am dri mis i'n cwsmeriaid busnes. Bydd y trefniant hwn yn aros yn ei le tan 30 Mehefin 2020.

Cynllun Benthyciadau Busnes Cofid-19 Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Benthyciad Busnes £100m Cymru i gefnogi busnesau a effeithiwyd arnynt gan yr achosion o Cofid-19. Mae cynllun wedi’i ddefnyddio’n llawn ar ôl derbyn mwy na 1,500 o geisiadau mewn ychydig dros wythnos.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth dros £1.4 biliwn ar gyfer busnesau bach y mae'r coronafirws yn effeithio arnynt.

Mae'r pecyn hwn yn rhoi gwyliau ardrethi o flwyddyn i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o dan £500,000 yng Nghymru, ac mae'n cynnig grant o £25,000 i fusnesau yn y sector hwn gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Mae hefyd yn darparu grant o £10,000 i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Gweinyddir hyn trwy gyfrwng y System Ardrethi Busnes, felly nid oes angen i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer y gefnogaeth hon wneud unrhyw beth i wneud cais am y cynllun.

Cronfa Cadernid Economaidd

Gall busnesau elwa o bot argyfwng gwerth £400 miliwn sy’n darparu:

  • grantiau yn werth £10,000 i Ficro-fusnesau sy'n cyflogi hyd at naw o bobl. Mae hyn yn cynnwys masnachwyr unigol sy'n cyflogi staff. Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais erbyn canol mis Ebrill.
  • grantiau o hyd at £100,000 i gwmnïau bach a chanolig gyda rhwng 10 a 249 o weithwyr. Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais erbyn canol mis Ebrill.
  • cymorth ar gyfer cwmnïau mwy o faint yng Nghymru, sydd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd tyngedfennol i Gymru. Bydd yr elfen hon yn agored i fusnesau cymwys o fewn y pythefnos nesaf.

 

Bydd y broses ymgeisio i fusnesau sy’n gymwys i gael cymorth ariannol trwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor ddydd Gwener 17 Ebrill.

Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar gael ar y Gwirwyr Cronfeydd Busnes Cymru. 

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru wedi cyhoeddi cyngor cyffredinol ar gyfer busnesau ac maent ar gael ar 03000 6 03000.

Beth mae llywodraeth y DU yn ei wneud i helpu busnesau?

Gwasanaeth Amser i Dalu Cyllid a Thollau EM

Os na all eich busnes dalu eich biliau treth oherwydd y coronafirws, fe allech chi wneud cais am gytundeb ‘amser i dalu’ gyda Chyllid a Thollau EM. Mae hyn yn caniatáu ichi ad-dalu'ch rhwymedigaethau treth sy'n ddyledus mewn rhandaliadau misol dros gyfnod y cytunwyd arno (hyd at 12 mis yn nodweddiadol). Os ydych chi'n poeni na fyddwch chi'n gallu gwneud taliad treth oherwydd coronafirws, dylech gysylltu â Llinell gymorth ymroddedig Cyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bo modd.

Cynllun Benthyca Ymyrryd Ar Fusnes Coronafirws

Gan adeiladu ar seilwaith sydd yn ei le ar gyfer cynllun sy'n bodoli eisoes, mae'r gronfa hon ar gael i BBaCh ac yn galluogi benthycwyr i ddarparu cyllid o hyd at £5 miliwn i gefnogi busnesau llai y mae'r argyfwng coronafirws yn effeithio arnynt.

Mae'n cael ei weinyddu gan Fanc Busnes Prydain, gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan ystod o fenthycwyr a fydd yn elwa o warant gan y llywodraeth.

Sylwch nad Banc Datblygu Cymru sy'n cynnig y gronfa hon.

Ar yr 2il o Ebrill, fe ehangodd y cynllun er budd mwy o fusnesau llai ledled y DU, gyda'r nodweddion canlynol:

  • Ni chymerir gwarantau personol ar gyfer cyfleusterau o dan £250k. Ar gyfer cyfleusterau dros £250k, efallai y bydd angen gwarantau personol, ond byddant yn cael eu capio ar 20% o'r balans sy'n weddill ar ôl i asedau’r busnes gael eu hadennill
  • Mae busnesau sydd â digon o ddiogelwch i gael gafael ar gyllid y tu allan i'r cynllun bellach yn gymwys ar gyfer y cynllun
  • Bydd benthycwyr yn cymhwyso'r holl newidiadau hyn yn ôl-weithredol ar gyfer pob cais a wneir ers lansio'r cynllun

 

Ymgeisio am Gynllun Benthyciad Ymyrryd ar Fusnes Coronafirws

Cyfleuster Ariannu Corfforaethol COFID-19

Mae hyn wedi'i anelu at gorfforaethau mwy sy'n gredydau cryf (o ran gradd buddsoddi) ond sy'n profi pwysau hylifedd oherwydd effaith COFID-19. Bydd y CACC yn caniatáu i gorfforaethau mawr gael gafael ar gyllid tymor byr trwy gyhoeddi Papur Masnachol (“PM”). Bydd y gronfa’n cael ei rheoli a’i gweinyddu gan Fanc Lloegr (“BLl”) ar ran Trysorlys EM.

Costau tâl salwch

Bydd tâl salwch statudol ar gael ar gyfer unigolion cymwys sydd wedi cael diagnosis o coronafirws neu sy'n hunan-ynysu. Bydd busnesau bach a chanolig (busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr) yn gallu adennill cost 14 diwrnod o dâl salwch statudol fesul gweithiwr.

Gohirio TAW

Gohirir pob taliad TAW am dri mis, rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2020. Mae hwn yn gynnig awtomatig i holl fusnesau'r DU, ac nid yw'n ofynnol i wneud unrhyw gais amdano. Bydd unrhyw TAW na gafodd ei dalu yn ôl yn ystod y cyfnod gohirio yn ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn dreth 2020 i 2021. Canfyddwch fwy.

Cynllun cadw swyddi

Bydd y llywodraeth yn talu grantiau i dalu am 80% o gyflogau (hyd at £2,500 y mis) ar gyfer y rhai sy'n cael eu cadw gan eu cyflogwyr ond sy'n methu gweithio. Canfyddwch fwy.

Cefnogaeth gan fanciau'r stryd fawr

Mae rhai o fanciau’r stryd fawr wedi cyhoeddi mesurau fel gwyliau talu i helpu eu cwsmeriaid i reoli effaith yr achosion o coronafirws.

Isod ceir llinellau cymorth cyffredinol neu rifau pwrpasol ar gyfer cymorth coronafirws:

  • Natwest – Siaradwch â'ch Rheolwr Perthynas neu cysylltwch ar 0345 711 4477
  • Barclays - Siaradwch â'ch Rheolwr Perthynas neu ffoniwch 0800 1971 086. Ar agor 8yb-8yh
  • Lloyds - Maent yn hyrwyddo hyd at £2 biliwn o gyllid heb ffioedd i fusnesau bach. Siaradwch â'r Rheolwr Perthynas
  • HSBC - Llinell Gymorth 08000 121 614. Ar agor o 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • RBS - Siaradwch â'r Rheolwr Perthynas neu Ffoniwch 0345 600 2230

 

Nid yw'r wybodaeth a grynhoir uchod gyfystyr â chyngor ariannol na chyngor proffesiynol arall ac mae'n gyffredinol ei natur. Nid yw'n ystyried eich amgylchiadau penodol ac ni ddylid gweithredu arno heb i gynghorydd ariannol cwbl gymwys gael dealltwriaeth lawn o'ch sefyllfa bresennol. Wrth wneud hynny rydych mewn perygl o ymrwymo i gynnyrch a / neu strategaeth na fydd efallai'n addas i'ch anghenion.