Canllaw i strategaethau ymadael a llwybrau yn y dyfodol ar gyfer sylfaenwyr technoleg

Rhan 4 - Gweithio tuag at ymadael
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
A man working at his laptop

Os ydych chi'n datblygu cwmni technoleg newydd, ni ddylai cynllunio'ch strategaeth ymadael fod yn ôl-ystyriaeth byth. Mae'r sylfaenwyr mwyaf llwyddiannus yn ystyried eu strategaeth ymadael o'r cychwyn cyntaf ac yna'n trin paratoi eu hymadawiad fel disgyblaeth barhaus. Mae hyn yn golygu buddsoddi mewn a chynnal llywodraethu tynn, data cadarn, a stori gwerth chweil a gynlluniwyd i fod yn apelgar i brynwyr tebygol neu'r marchnadoedd cyhoeddus. 

Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth yw strategaeth ymadael, pam ei bod yn bwysig, a sut i baratoi – fel y gallwch chi wneud y mwyaf o'r gwerth rydych chi wedi'i adeiladu ac osgoi peryglon cyffredin. 

Beth yw strategaeth ymadael? 

Mae strategaeth ymadael yn gynllun bwriadol ar gyfer sut y bydd sylfaenwyr a buddsoddwyr yn y pen draw yn gwireddu’r gwerth maen nhw wedi'i adeiladu mewn busnes. Os caiff ei gweithredu’n dda, bydd strategaeth ymadael yn cynyddu'r gwerth hwnnw i'r eithaf mewn ffordd sy'n gweithio i bawb o dan sylw. Os caiff ei gwneud yn wael, gall danseilio blynyddoedd o waith caled. 

Mae strategaeth ymadael gadarn yn diffinio sut y bydd perchnogaeth yn newid dwylo – boed hynny drwy werthiant, uno, allbryniant rheolwyr, neu gynnig cyhoeddus cychwynnol (CCC a adwaenir yn y diwydiant yn gryno fel CCC/IPO) – ac yn sicrhau bod penderfyniadau a wneir ar hyd y ffordd yn cyd-fynd â'r nod terfynol hwnnw. 

Nid yw cynllunio ymadael yn ymwneud â'r digwyddiad terfynol yn unig; mae'n broses barhaus sy'n llunio sut mae eich cwmni'n cael ei lywodraethu, ei ariannu a'i leoli. Mae strategaeth wedi'i diffinio'n dda yn helpu sylfaenwyr i ganolbwyntio ar greu gwerth trosglwyddadwy - adeiladu systemau, data a strwythurau arweinyddiaeth nad ydynt yn dibynnu'n llwyr arnynt. Mae hefyd yn eich helpu i egluro pa ffactorau sy'n gyrru prisiad eich cwmni a beth fydd darpar brynwyr neu farchnadoedd cyhoeddus yn ei chael yn werthfawr ac yn fodlon talu amdano. Yr amser gorau i ddechrau meddwl am ymadael yw ymhell cyn i chi fod ei angen mewn gwirionedd. 

Pam mae cynllunio ymadael yn bwysig 

Bydd cylchoedd macroeconomaidd, yr ymdeimlad y mae buddsoddwyr yn ei gael, a rheoleiddio i gyd yn dylanwadu ar pryd y bydd y cyfle cywir i adael yn codi. Mae'r rhain i gyd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi, felly mae un peth yn parhau i fod yn ffactor cyson: byddwch yn barod. Mae ymadawiad cywir, ar yr adeg iawn, yn gwobrwyo blynyddoedd o waith caled a llywodraethu da. 

Boed eich nod yn werthiant masnach, arnofio, neu fuddsoddiad eilaidd, mae'r egwyddor yn aros yr un fath: cynlluniwch yn gynnar, byddwch yn barod, ac adeiladwch fusnes sydd wedi'i redeg mor dda fel y bydd eraill eisiau bod yn berchen arno. Dim ond os yw rhywun yn barod i brynu y gallwch chi werthu, felly mae amseru yn allweddol; ac mae’r amseru yn rhannol yn fater o gynllunio ac yn rhannol yn fater o achub y cyfle, fel mae’n codi. Mae angen i chi fod yn barod i fanteisio ar y cyfle iawn, pan ddaw i’r amlwg. 

Mae'n werth ystyried yn gynnar a allai enillion fod yn rhan o fargen. Mae hyn fel arfer yn golygu bod rhywfaint o'r gwerth (pris gwerthu) yn cael ei wireddu dros gyfnod o amser, ac mae hyn fel arfer yn dibynnu a yw’r busnes yn cyflawni cerrig milltir a thargedau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Ond mae hefyd fel arfer yn golygu bod y sylfaenydd yn aros tra bod y broses hon yn datblygu, gan amlaf, am flwyddyn neu ddwy. Gall enillion bontio bylchau gwerthuso ac alinio cymhellion, ond maent hefyd yn symud risg i werthwyr a gall fod yn anodd i sylfaenydd weithio i rywun arall, mwyaf sydyn. 

Gall amodau'r farchnad newid yn gyflym. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ffenestr CCC wedi bod yn un stop-dechrau, tra bod gweithgaredd uno a chaffael strategol (U&Ch/M&A) wedi amrywio - wedi'i ddylanwadu gan gyfuniad o gyfraddau llog, craffu rheoleiddiol, a theimlad ehangach ynghylch pa mor gyflym y gallai newidiadau - fel technoleg newydd - ddylanwadu ar segment penodol o'r farchnad. 

Dyna pam ei bod hi'n bwysig cael cymaint o opsiynau â phosibl. Byddwch yr un mor barod ar gyfer gwerthiant, CCC, neu fuddsoddiad ecwiti preifat, yn hytrach na rhoi eich wyau i gyd mewn un basged fel petai trwy ddilyn un llwybr a allai gau'n annisgwyl wrth i farchnadoedd newid. 

Ar yr un pryd, mae eglurder yn bwysig: ystyriwch strategaethau ymadael posibl o'r cychwyn cyntaf, a pheidiwch byth â cholli golwg ar y nod terfynol. Pan ddaw'r cyfle, byddwch yn barod i gymryd y cyfle hwnnw. Gall hyn fod cymaint am baratoad a disgyblaeth y cwmni ag y mae am fod yn barod yn feddyliol ac yn emosiynol i symud ymlaen o'r peth sydd wedi cymryd y lle mwyaf blaenllaw o ran eich amser a'ch bywyd ers blynyddoedd lawer. 

Yn fyr, bydd ymadawiad cadarnhaol i sylfaenydd yn dibynnu ar amseru ond hefyd ar barodrwydd parhaus. Boed y nod yn CCC, gwerthiant, neu fuddsoddiad eilaidd, mae'r cwmnïau sydd wedi'u paratoi orau yn adeiladu hyblygrwydd i'w strategaeth. Maent yn deall bod marchnadoedd yn troi, bod prisiau'n amrywio, a bod ffenestri'n cau - ond bydd busnesau sydd wedi'u llywodraethu'n dda, yn dryloyw ac yn effeithlon bob amser yn dod o hyd i brynwr. 

Pryd ddylech chi ddechrau cynllunio ymadawiad? 

Yn gynharach nag yr ydych chi'n meddwl. Yn gynharach o lawer. 

Yn aml, mae alinio yn dechrau yn ystod y cynnig marchnata’ch cwmni cyntaf rydych chi’n ei wneud i gael buddsoddiad oherwydd fe fydd y rhan fwyaf o fuddsoddwyr yn gofyn am strategaethau ymadael credadwy a phrynwyr addas. Mae'n debyg y bydd ganddyn nhw eu barn eu hunain ar rinweddau'r gwahanol opsiynau, fel gwerthiant strategol, CCC, neu allbryniant ecwiti preifat (EP), er mwyn sicrhau bod cymhellion yn cyfateb. 

O'r pwynt cynnar hwnnw, byddant hwy, efallai ynghyd â chynghorwyr eraill, yn cynnig awgrymiadau o ran sut olwg sydd ar barodrwydd parhaus i adael. Dim ond un rhan yw cyllid glân a chyfredol. Byddant hefyd yn awgrymu bod metrigau parod ar gyfer archwiliad ar waith, bod materion a phrosesau AD yn lân ac yn daclus, a bod yr holl ddogfennau cyfreithiol yn gyfredol. 

Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod data perfformiad a metrigau mwy manwl ar gael yn rhwydd, gan ganiatáu i chi ymateb pan fydd amodau neu gaffaelwyr yn troi'n ffafriol. Bydd hyn yn helpu i gyflymu gweithrediad posibl a gwella hygrededd. 

Llwybrau ymadael cyffredin ar gyfer cwmnïau technoleg newydd 

Mae tri phrif lwybr y mae cwmnïau technoleg yn eu cymryd i ymadael, gydag ychydig o amrywiadau – gallwch werthu perchnogaeth y busnes i gwmni arall, i'r cyhoedd neu i fuddsoddwr sefydliadol gwahanol. Bydd addasrwydd pob un yn dibynnu ar raddfa, ansawdd twf, llywodraethu ac amodau'r farchnad. 

Gwerthiant masnach (caffael strategol) 

Dyma’r un mwyaf cyffredin a’r un hawsaf i’w ddeall, mae’n debyg. Yn syml, bydd cystadleuydd neu chwaraewr cyfagos yn caffael eich cwmni. Gall y rhesymau pam maen nhw eisiau prynu eich busnes amrywio, a bydd yn effeithio ar faint maen nhw’n fodlon ei dalu a pha siâp fydd ar y caffaeliad. Fe allant fod yn prynu oherwydd eu bod nhw’n gweld synergeddau – neu oherwydd eu bod nhw eisiau’r hyn sydd gennych chi (a allai fod yn gynnyrch, technoleg, doniau neu sylfaen cwsmeriaid). 

Mae llawer o fanteision i werthiant masnach, gan gynnwys cyflymder, sicrwydd, ac aliniad strategol. Ond gall fod anfanteision. Yn aml, mae risg integreiddio yn un fawr wrth i ddiwylliannau a phrosesau wrthdaro. Mae hefyd yn fwy tebygol y bydd y prynwr eisiau enillion am gyfnod hirach, sy'n golygu y gallai fod angen i chi weithio i rywun arall am gyfnod (yn aml sawl blwyddyn) i sicrhau'r pris caffael llawn. 

Os ydych chi'n targedu gwerthiant masnach, mapio'ch traethawd prynwr tebygol yn gynnar ac adeiladu eich busnes o amgylch pethau y mae'r caffaelwyr hynny'n poeni amdanynt. Gallai hynny olygu ardystiadau diogelwch menter, nodweddion cynnyrch cyflenwol, neu gytundebau partneriaeth glân. Darganfyddwch beth y gallent fod ei eisiau, a gwnewch hynny. 

Cynnig cyhoeddus cychwynnol (CCC) 

Mae hyn yn cynnwys rhestru eich cwmni ar gyfnewidfa stoc, proses sy'n caniatáu i'w gyfranddaliadau (neu ganran ohonynt) gael eu prynu a'u gwerthu'n rhydd gan fuddsoddwyr/cyfranddalwyr. O'r opsiynau ymadael, gall hwn fod yr un mwyaf costus a’r un sy'n cymryd y rhan fwyaf o amser gan fod yn rhaid i gwmnïau cyhoeddus fodloni safon uchel o lywodraethu ac archwilio ac nid yw hynny bob amser yn opsiwn hyfyw. Yn aml, mae rhestru'n digwydd fel ffordd o godi arian ar gyfer y busnes ar gyfer y dyfodol; gall gwerthu eich cyfranddaliadau fod yn atodol i hyn ac fel arfer bydd cyfnod cloi lle na allwch werthu. Fodd bynnag, mae cyfranddalwyr cyhoeddus yn tueddu i fod yn llai cysylltiedig â busnes felly efallai y byddwch yn sylweddoli rhywfaint neu'r cyfan o werth y cwmni wrth gadw elfen o reolaeth dros ei dynged. 

Mae manteision eraill yn cynnwys mynediad at gyfalaf ar gyfer twf yn y dyfodol, gwell hygrededd brand, a gwelededd ac arian cyfred ar gyfer caffaeliadau posibl yn y dyfodol. Rhai o’r anfanteision o bosib fyddai amseriad y CCC (oherwydd fe all teimlad buddsoddwyr newid yn gyflym), mwy o gydymffurfiaeth reoleiddiol, craffu cyhoeddus ar berfformiad gan gynnwys gorfod ffeilio canlyniadau chwarterol, a chostau cylchol bod yn gwmni rhestredig. 

Os ydych chi'n anelu at CCC, dechreuwch feithrin disgyblaethau cwmni cyhoeddus ymhell cyn i'r broses restru ddechrau. Bydd tryloywder, perfformiad rhagweladwy, a chanllawiau chwarterol yn hanfodol. Er bod diwygiadau rheoleiddio'r DU yn ceisio symleiddio'r broses restru, mae'r gwaith ymarferol o baratoi - gan gynnwys rheolaethau mewnol, llywodraethu, ac adrodd - yn parhau i fod yn an-negodiadwy. 

Allbryniant/gwerthiant eilaidd ecwiti preifat (EP) 

O'r holl strategaethau ymadael, gallai hwn fod yr un a allai edrych leiaf fel ymadawiad mewn rhai ffyrdd. Yn syml, rydych chi'n cyfnewid un buddsoddwr am un arall ond dylid ei ystyried yn gam angenrheidiol ar y ffordd i ymadawiad llwyr a chyflawn, ac o bosibl gyda'r cyfle i wireddu rhywfaint o werth y cwmni yn y broses. Yn nodweddiadol, bydd cronfa ecwiti preifat neu brynwr eilaidd yn caffael cyfran gan fuddsoddwyr presennol. 

Mae manteision y dull hwn yn cynnwys cael mynediad at rywfaint o arian parod gyda chefnogaeth weithredol barhaus, a pharhad. Gallai anfanteision gynnwys mwy o fenthyca gan arwain at fwy o reolaethau ariannol a chyfamodau llymach. 

Os ydych chi'n rhagweld trafodiad ecwiti preifat neu eilaidd, dylai eich ffocws fod ar ddangos defnydd cyson o gynllun busnes a throsi arian parod. Mae buddsoddwyr yn chwilio am fusnesau lle gallant weld yn glir sut y gellir gwella twf a phroffidioldeb - er enghraifft, trwy osod y prisiau cywir, cadw mwy o gwsmeriaid, neu gynyddu elw. Maen nhw eisiau gweld gallu i'w gweithredu. Bydd niferoedd yn bwysig, a bydd prynwyr yn gwerthfawrogi effeithlonrwydd yn hytrach na gor-heipio. 

Cynllun ar gyfer parodrwydd i adael – rhestr wirio 

Mae niferoedd yn bwysig 

Mae cynllunio ymadawiad effeithiol yn dechrau gyda stori werth gymhellol wedi'i seilio ar fetrigau caled, gan gynnwys twf cadarn, elw iach, gallu cryf i gadw cwsmeriaid, ac effeithlonrwydd gweithredol. Bydd y rhan fwyaf o fuddsoddwyr a chaffaelwyr yn disgwyl i’r niferoedd siarad yn uwch na’r geiriau. Peidiwch â dweud bod gennych biblinell werthu gref - dangoswch hynny gyda hanes o broses werthu ailadroddadwy sy'n darparu cyfraddau trosi cyson. 

Dangoswch barodrwydd diwydrwydd – bob amser 

Bydd angen i chi ddangos bod eich gweithrediadau'n barod am graffu diwydrwydd. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfrifon rheoli cyfredol, polisïau cydnabod refeniw clir, contractau taclus, a thabl cap glân gyda chofnodion opsiynau cywir. Mae parodrwydd yn ymwneud â gallu i ymateb i gwestiynau ar unrhyw adeg heb oedi na dryswch. Mae cael y pethau bach mewn trefnu ac o dan reolaeth yn rhoi hyder i brynwr yn eich gwerth. 

Materion cyfreithiol 

Mae sylfeini cyfreithiol a llywodraethu cryf yn hanfodol. Dylid aseinio eiddo deallusol i'r cwmni, nid i sylfaenwyr nac i gontractwyr. Rhaid dogfennu a diogelu data yn amddiffynadwy, ac fe ddylai cofnodion y bwrdd, cydsyniadau, a phenderfyniadau cyfranddalwyr fod yn gyfredol ac yn hygyrch. Anaml y bydd y ffactorau hylendid hyn yn ennill bargen, ond gallant yn sicr danseilio un os ydynt ar goll. 

Safle yn y farchnad 

Yr un mor bwysig yw eich safleoliad yn y farchnad. Mae angen i werthwyr ddangos cynnyrch y gellir ei amddiffyn, pwynt gwahaniaethu clir, a dealltwriaeth o sut mae'r safleoliad hwnnw'n cyd-fynd â darpar brynwyr neu feini prawf CCC. Mae gallu dangos map prynwyr credadwy a bod yn glir ynghylch pwy allai eich caffael a pham, yn arwydd o aeddfedrwydd strategol. 

Materion personol 

Mae'r strategaethau ymadael gorau hefyd yn integreiddio amcanion treth a phersonol. Rhaid i sylfaenwyr benderfynu faint o arian maen nhw am ei gymryd, pa lefel o amlygiad all-enillion y gallant ei oddef, a faint o risg maen nhw'n barod i'w chadw. Gall mynd i'r afael â materion treth a chyfrifyddu yn gynnar a bod yn glir ynghylch disgwyliadau atal gollyngiad gwerth diangen yn ddiweddarach yn y broses. 

Osgoi peryglon cyffredin 

Cyfaddawdu 

Y perygl mwyaf o bosibl yw amharodrwydd i gyfaddawdu. Mae llawer o sylfaenwyr a byrddau'n baglu trwy aros am berffeithrwydd. Anaml y bydd marchnadoedd yn aros. Y nod yw bod yn barod, nid yn ddi-ffael; gall prynwyr ymddangos yn gynt na’r disgwyl. Rhaid i chi allu ymateb i hynny. 

Gor-rannu 

Gwall cyffredin arall yw rhannu gormod yn ystod y broses. Dylai gwerthwyr ddatgelu dim ond yr hyn sy'n ofynnol ym mhob cam, trwy ystafell ddata ddiogel a o dan gytundebau dim datgelu llym. Gall gor-gyfleu gwybodaeth sensitif yn rhy gynnar greu risg os bydd cynigydd yn cerdded i ffwrdd. Yr arfer safonol yw gweithredu a glynu wrth gytundebau datgelu, gan gynnal rheolaeth mynediad llym drwy gydol yr archwiliad diwydrwydd dyladwy. 

Nid prisiad yw popeth 

Yr un mor beryglus yw canolbwyntio ar brisio ar draul telerau bargen a'r print mân. Gall strwythur y fargen - gan gynnwys manylion y telerau, a chyfamodau ar ôl cau - yrru gwerth gwirioneddol trafodiad yn fwy na'r prif bris. Gall yr elfennau hyn wneud y gwahaniaeth rhwng ymadawiad da ac un costus. Mae hefyd yn bwysig osgoi gweledigaeth dwnnel neu feddylfryd cul o ran negodi. Peidiwch â gadael i bris ddominyddu blaenoriaethau eraill fel cyflymder, sicrwydd a chadw cwsmeriaid. 

Sicrhewch bod yr amseru'n iawn 

Gall anwybyddu amseru macro-economaidd hefyd ddinistrio gwerth. Gall gorfodi CCC i mewn i farchnad wan neu wrthod cynnig strategol cryf yn y gobaith o luosrifau uwch tra bod cyfraddau llog yn codi fod yn gamgymeriadau drud. 

Mynnwch gynghorwyr da 

Yn olaf, mae gormod o gwmnïau'n mynd ati i werthu heb gael y set sgiliau cywir wrth law. I'r rhan fwyaf o bobl, dim ond unwaith neu ddwywaith y maen nhw'n gwerthu busnes, felly mae'n gwneud synnwyr gweithio gyda chynghorydd sydd â'r profiad nad oes gennych chi. 

Mae wynebu tîm cyfreithiol corfforaethol neu ecwiti preifat mawr gyda chynghorydd cyffredinol yn gynildeb ffug. Bydd arbenigedd cyfreithiol penodol i sector - cyfreithwyr sy'n deall strwythurau bargeinion, manylion rheoleiddio, a dynameg y diwydiant - bob amser yn talu amdano'i hun. 

Mae strategaeth ymadael sydd wedi'i chynllunio'n dda yn fwy na dim ond cam olaf - mae'n ymwneud â gosod eich busnes ar gyfer llwyddiant hirdymor o'r diwrnod cyntaf. Drwy gynllunio ymlaen llaw, aros yn hyblyg, a chadw trefn ar eich tŷ, byddwch yn barod i fanteisio ar y cyfle iawn pan ddaw. 

P'un a yw eich nod yn werthiant, CCC, neu fuddsoddiad eilaidd, mae bod yn barod i adael yn golygu mai chi sy’n dal yr awenau a bod gennych chi rheolaeth dros bethau - gan wneud y mwyaf o'r gwerth rydych chi wedi'i adeiladu a sicrhau bod eich holl waith caled yn talu ar ei ganfed ar yr adeg pwysicaf.