Pam mai eich lles yw ased pwysicaf eich cwmni technoleg sy’n dechrau o’r newydd

Rhan 2 - Y daith codi arian
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Woman drinking a glass of water

Mae rhedeg busnes yn gofyn am gadernid, egni ac argyhoeddiad – ac ychydig sy'n teimlo hynny'n fwy brwd na sylfaenwyr. Chi yw calon eich cwmni: y gwneuthurwr penderfyniadau, y cymhellwr, y datryswr problemau, a'r gosodwr safonau. Ym maes cyfalaf menter, nid dim ond y syniad busnes neu'r stori sy'n denu buddsoddiad – y sylfaenydd ei hun sydd. Yn y pen draw, mae buddsoddwyr yn cefnogi person y maent yn credu all wireddu'r weledigaeth honno. 

Mae hyn yn golygu bod angen i ased mwyaf gwerthfawr cwmni sy’n dechrau o’r newydd – sef chi, fel y sylfaenydd – angen cael eich diogelu hefyd. Ac eto, yn rhy aml, y person sydd fwyaf cyfrifol am lwyddiant cwmni yw'r un sy'n esgeuluso ei lesiant ei hun. Mae llawer yn methu â rhoi rhwydi diogelwch ar waith na gosod cynlluniau wrth gefn ar gyfer adegau pan na fyddant hwy eu hunain yn gallu arwain. 

Mae'r daith fentergarwch yn un ddwys. Mae'n ymofyn oriau hir, stamina emosiynol, a ffocws di-baid. Ond nid yw sylfaenwyr yn anorchfygol, a phan fyddwch chi'n methu, mae timau cyfan yn teimlo effaith hynny. Nid hunan-fodlonrwydd yw gofalu amdanoch chi'ch hun, mae'n arfer busnes cadarn. 

Pam mae llesiant sylfaenwyr yn bwysig 

Mae perfformiad y sylfaenydd yn cael effaith bellgyrhaeddol. Mae eich lefelau egni chi yn gosod y cyflymder, eich barn chi sy’n llunio’r penderfyniadau, ac mae eich tôn emosiynol yn dylanwadu ar ddiwylliant y cwmni. Mae pob rhan o'ch cwmni yn seiliedig ar eich  gweledigaeth, a'ch personoliaeth chi. Os nad ydych chi ar eich gorau, neu hyd yn oed os nad ydych chi ar gael, mae'r canlyniadau'n ymestyn ymhell y tu hwnt i effaith colli un person. 

Mae gweithwyr yn edrych at eu sylfaenydd am gyfarwyddyd a sicrwydd. Mae buddsoddwyr yn disgwyl cysondeb ac arweinyddiaeth. Byddant yn ymddiried ynoch chi. Mae cwsmeriaid yn disgwyl parhad. Mewn llawer o gwmnïau cam cynnar, y sylfaenydd yw wyneb y brand a cheidwad perthnasoedd allweddol. Os byddwch chi'n cael eich taro, gall y busnes faglu. 

Yn aml, mae sylfaenwyr yn tanamcangyfrif y ddibyniaeth hon. Maent yn ymroi i rowndiau codi arian, lansio cynnyrch ac ymgyrchoedd cyflogi, gan gredu bod unrhyw oedi yn foethusrwydd na allant ei fforddio. Eto i gyd, mae blinder ac iechyd gwael yn tanseilio'n union yr hyn sydd ei angen fwyaf ar y busnes: eglurder, cadernid a chreadigrwydd. 

Yn gryno, mae lles y cwmni'n adlewyrchu lles ei sylfaenydd. Mae diogelu chi eich hun yn amddiffyn y busnes.  

Iechyd cyfreithiol ac ariannol 

Mae iechyd personol – corfforol a meddyliol – yn bwysig. Ond mae haen amddiffynnol i'w hystyried cyn hynny hefyd, a all, os caiff ei gwneud yn gywir, ddiogelu’r busnes os na allwch chi. 

Does neb eisiau dychmygu eu bod yn methu gweithio, mwyaf sydyn. Ond gall ddigwydd ac mae'n digwydd, a rhaid i fuddsoddwyr a byrddau gynllunio ar gyfer hynny'n union. Mae yna ddiogelwch cyfreithiol ac ariannol wedi'i gynllunio i amddiffyn sylfaenwyr, buddsoddwyr a'r cwmni, sydd yr un mor hanfodol ag unrhyw strategaeth twf. 

Mae yswiriant person allweddol yn un o'r dulliau mwyaf ymarferol. Mae'n darparu yswiriant ariannol i'r cwmni os bydd unigolyn hanfodol, - fel arfer y sylfaenydd, y Prif Weithredwr,  neu'r arweinydd technegol allweddol, yn mynd yn wael iawn neu'n marw. Gall y taliad gan y cwmni yswiriant ariannu recriwtio, gwrthbwyso refeniw coll, neu sicrhau buddsoddwyr y gall y busnes barhau. Ar gyfer cwmnïau cam cynnar, lle mae un person yn aml yn cario gwybodaeth neu berthnasoedd unigryw, mae hyn yn rheoli risg hanfodol. 

Mae cynllunio olyniaeth yr un mor bwysig, hyd yn oed i gwmnïau newydd sy'n teimlo eu bod flynyddoedd i ffwrdd o'r cam hwnnw. Mae cael cynllun clir ar gyfer pwy sy'n camu i mewn os nad ydych chi ar gael, boed dros dro neu'n barhaol, yn dangos aeddfedrwydd i fuddsoddwyr a gweithwyr fel ei gilydd. Gallai fod yn gyd-sylfaenydd, uwch gyflogwr, neu'n swyddog anweithredol dibynadwy. Y pwynt yw sicrhau parhad, nid anhrefn. 

Dylai cytundebau cyfranddalwyr hefyd ymdrin â'r senarios hyn. Mae darpariaethau sy'n ymdrin ag analluogrwydd, hawliau adbrynu, neu ymdrin â chyfranddaliadau mewn achos marwolaeth yn bynciau anghyfforddus i fynd i’r afael â nhw, ond mae eu hosgoi yn creu llawer mwy o boen yn ddiweddarach. 

Ac wrth gwrs, dylech ystyried materion cyllid personol. Mae llawer o sylfaenwyr yn buddsoddi'n helaeth, yn ariannol ac yn emosiynol, yn eu mentrau. Mae cynnal a chadw y gwahaniaeth hwnnw rhwng cyllid personol a chwmni, amddiffyn asedau personol, a chymryd cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol yn ddisgyblaethau syml ond hanfodol. 

Nid pessimistiaeth yw gofalu am eich iechyd cyfreithiol ac ariannol; doethineb yw hyn. Mae'n rhoi hyder i'r rhai sy'n dibynnu arnoch chi ac yn caniatáu i chi weithredu gyda mwy o dawelwch meddwl. 

Iechyd corfforol: y dygnwch i arwain 

Mae mentergarwch yn heriol yn gorfforol. Gall sbrintiau codi arian, amserlenni teithio, dyddiadau cau cynnyrch a chylchdeithiau digwyddiadau erydu cwsg, maeth ac ymarfer corff yn hawdd: mewn ychydig eiriau, holl sylfeini perfformiad cynaliadwy. 

Nid oes unrhyw araith buddsoddwr na chyfarfod bwrdd yn werth cost gronnus blinder cronig. Mae blinder yn cymylu barn, yn arafu amseroedd ymateb, ac yn erydu amynedd. Nid yn unig mae'n ddrwg i chi; mae'n ddrwg i arweinyddiaeth. 

Meddyliwch am iechyd corfforol fel rhan o'ch disgyblaeth weithredol. Ni fyddech chi'n rhedeg cwmni heb amserlen cynnal a chadw na chynllun wrth gefn; mae eich corff yn haeddu'r un diwydrwydd. 

Nid yw cwsg yn rhywbeth y gellir ei drafod. Mae'n adfer swyddogaeth wybyddol, cydbwysedd emosiynol ac eglurder wrth wneud penderfyniadau. Mae llawer o sylfaenwyr yn ei drin fel dewisol – hyd nes iddynt gael eu sobri o ddifri, am eu bod wedi llwyr ymladd. 

Nid yw ymarfer corff yn ymwneud â ffitrwydd yn unig; mae'n rheolydd straen. Mae hyd yn oed symudiadau am gyfnodau byr bob dydd yn helpu. Ewch am dro, gwnewch amser i ymestyn, neu gwnewch sesiwn yn y gampfa. Gall yr holl bethau hyn ailosod eich persbectif a mynd i'r afael â phryder. 

Mae maeth yn helpu i danio ffocws. Mae oriau hir a phrydau bwyd afreolaidd yn draenio egni ac yn cynyddu hormonau straen. Mae cynllunio bwyd fel rydych chi'n cynllunio cyfarfodydd yn offeryn cynhyrchiant rhyfeddol o effeithiol. 

A dylai archwiliadau meddygol rheolaidd fod yn ddigwyddiadau arferol, nid yn adweithiol. Efallai y bydd gofal iechyd ataliol gan gynnwys monitro pwysedd gwaed, profion gwaed ac archwiliadau corfforol yn canfod problemau cyn iddyn nhw eich dal chi. Pan fyddwch chi'n iach yn gorfforol, rydych chi'n meddwl yn gyflymach, yn cyfathrebu'n well, ac yn gwella'n gyflymach wedi i bethau fynd o chwith. Mae'r enillion ar fuddsoddiad ynoch chi eich hun yn talu ar ei ganfed. 

Iechyd meddwl: cynnal eglurder 

Os mai iechyd corfforol yw'r injan, iechyd meddwl yw'r llyw. Mae sylfaenwyr yn gweithredu o dan ansicrwydd cyson: anwadalrwydd refeniw, pwysau buddsoddwyr, heriau tîm, a phwysau disgwyliadau. Gall y straen hwnnw fod yn ynysig, ac mae unigedd yn chwyddo risg. 

Mae straen a phryder yn ymatebion arferol i bwysau ond os na chânt eu rheoli, gallant ystumio canfyddiad a gwneud penderfyniadau. Mae straen cronig yn culhau ffocws, gan annog dewisiadau adweithiol yn hytrach na rhai strategol. Gall sylfaenwyr yn y cyflwr hwn gamddeall risgiau, gorweithio timau, neu ddod yn ddatgysylltiedig â'r union bobl sydd eu hangen fwyaf arnynt. 

Nid yw llosgi allan yn rhywbeth sy’n digwydd dros nos. Mae'n dod i’r amlwg yn llechwraidd trwy ddiffyg cwsg, blinder emosiynol, a cholli pwrpas. Y perygl yw bod sylfaenwyr yn aml yn gwisgo blinder fel bathodyn anrhydedd - ond nid yw hyn yn gynaliadwy. Bydd cymhelliant yn anweddu. 

Mae cefnogaeth ragweithiol yn gwneud yr holl wahaniaeth. Mae llawer o fentergarwyr  bellach yn defnyddio hyfforddwyr gweithredol neu therapyddion nid fel ymyriadau argyfwng, ond fel partneriaid perfformiad. Gall hyfforddwr helpu i strwythuro blaenoriaethau ac atal gorlwytho. Mae therapydd yn darparu lle cyfrinachol i ymlacio. Mae'r ddau yn gwella cadernid. 

Mae rhwydweithiau cyfoedion yr un mor werthfawr. Mae siarad â sylfaenwyr eraill yn normaleiddio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r daith ac yn cynnig empathi ymarferol gan bobl sy'n deall y pwysau unigryw o fod 'yr un y mae pawb yn dibynnu arno.' 

Mae iechyd meddwl hefyd yn ddiwylliannol. Pan fydd sylfaenwyr yn siarad yn agored am straen, gorffwys, neu gwnsela, mae'n gosod cynsail pwerus i weithwyr. Mae diwylliant cwmni iach yn dechrau ar y brig. 

Y tu hwnt i iechyd: dirprwyo a ffiniau 

Mae gofalu amdanoch chi'ch hun hefyd yn golygu dylunio busnes nad yw'n dibynnu'n llwyr arnoch chi. Yn aml, mae sylfaenwyr yn cyfateb rheolaeth â diogelwch, ond mae'r gwrthwyneb yn wir: busnesau cynaliadwy yw'r rhai a all weithredu pan fydd y sylfaenydd yn camu'n ôl. 

Mae dirprwyo yn sgil arweinyddiaeth ac yn strategaeth lles. Mae grymuso eraill gyda chyfrifoldeb go iawn yn rhyddhau eich galluoedd ar gyfer gwaith gwerth uwch ac yn atal llosgi allan. Mae microreoli, ar y llaw arall, yn magu blinder – ynoch chi a'ch tîm. 

Mae meithrin haen arweinyddiaeth alluog yn gynnar yn talu ar ei ganfed yn yr hirdymor. Mae'n creu gwybodaeth sefydliadol, yn dosbarthu pwysau, ac yn rhoi hyder i fuddsoddwyr nad sioe un person yw'r cwmni. 

Mae ffiniau yn ffurf arall o gryfder. Yn aml, mae sylfaenwyr yn aneglur ynghylch ffiniau bywydau personol a phroffesiynol, gan ateb negeseuon e-bost am hanner nos neu hepgor digwyddiadau teuluol er mwyn gweithio. Ond mae gorffwys a datgysylltiad yn tanio creadigrwydd. Nid yw amser segur bwriadol yn foethusrwydd; mae'n gyfle i ddeori. 

Mae rhai sylfaenwyr yn gweithredu ‘seibiannau sylfaenwyr'. Seibiannau byr, wedi'u cynllunio rhwng cylchoedd ariannu neu lansiadau cynnyrch yw'r rhain. Mae'r rhain yn caniatáu adferiad a myfyrio gwirioneddol heb danseilio momentwm. Gall hyd yn oed wythnos i ffwrdd, a datblygio'n llwyr, ailosod persbectif. 

Yn olaf, dylech feithrin seilwaith cymorth. Amgylchynwch eich hun gyda phobl sy'n eich herio ac yn eich amddiffyn: cadeirydd neu fentor sy'n annog cydbwysedd, Prif Swyddog Ariannol neu Brif Weithredwr dibynadwy a all reoli gweithrediadau, a ffrindiau neu deulu sy'n eich atgoffa eich bod yn fwy na'ch busnes a bod pobl yn eich caru chi. 

Casgliad: cadernid fel mantais i sylfaenydd 

Yn aml, disgrifir sylfaenwyr fel rhai sy'n cymryd risgiau, yn weledigaethwyr neu'n weithiwyr gwirioneddol galed. Ond efallai mai'r ansawdd mwyaf danbrisiedig yw cadernid. Y gallu i aros yn iach, yn gallu cynnal ffocws a thraed ar y ddaear yn emosiynol trwy anwadalrwydd yw'r hyn sy'n gwahaniaethu'r rhai sy'n syml yn dechrau cwmnïau oddi wrth y rhai sy'n adeiladu rhai sy’n para. 

Nid prosiect dibwys yw gofalu amdanoch chi'ch hun: mae'n rhaid iddo ddod yn ganolog i'ch gallu i arwain, ysbrydoli a chreu gwerth. Mae diogelwch cyfreithiol yn amddiffyn y cwmni os na allwch chi. Mae ffitrwydd corfforol yn sicrhau y gallwch chi wrthsefyll y gwaith caled. Mae iechyd meddwl cryf yn cadw persbectif. Mae ffiniau, dirprwyo a gorffwys yn eich cadw'n effeithiol. 

Mae buddsoddwyr yn betio ar bobl cymaint â syniadau. Mae gweithwyr yn ymuno â chenadaethau oherwydd eu bod yn credu yn eu harweinydd. Y gwasanaeth mwyaf y gallwch ei wneud i'r ddau yw bod yn chi eich hun, ar eich gorau. Byddant yn gwerthfawrogi cysondeb, cynaliadwyedd, a rhywun sydd yno, yn anad dim. 

Oherwydd pan fydd y sylfaenydd yn iach, mae'r busnes yn gryfach. Ac yn y pen draw, dyna'r buddsoddiad mwyaf cyfrifol y gall unrhyw mentergarwr ei wneud.