Mae Cronfa Busnes Cymru yn un o'n cronfeydd mwyaf ac mae'n helpu busnesau bach a chanolig sy'n bwriadu tyfu.
Mae Cronfa Busnes Cymru newydd, yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe'i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr yng Nghymru a'r rhai sy'n barod i symud yma.
Cynlluniwyd y ffynhonnell cyllid hon i:
- Ddarparu benthyciadau busnes a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 miliwn.
- Gefnogi busnesau newydd sy’n dechrau, busnesau bach a chanolig sefydledig, a mentrau technoleg cyfnod cynnar
- Gefnogi busnesau ar draws ystod eang o sectorau
Rydyn ni’n darparu cyllid prosiect tymor byr, cyllid twf mwy hir dymor yn ogystal â buddsoddiad dilynol a chyfalaf gweithio wrth i’r busnes dyfu.
Cwestiynau a Ofynnir yn aml am y gronfa
Mae’r gronfa yn £204 miliwn.
Mae Cronfa Busnes Cymru ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2m.
Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti i gyd ar gael.
Mae'r cyfnod fel arfer yn amrywio rhwng pump a saith mlynedd
Fel arfer, mae'n ofynnol i fusnesau gwrdd â'n buddsoddiad ni gydag arian o gronfeydd eraill.
Gall unrhyw fusnesau bach neu ganolig (rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sy'n seiliedig yng Nghymru, neu sy'n barod i symud i Gymru, wneud cais.