Andrew Drummond

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, bûm yn gweithio i Fanc HSBC ac mae gennyf fwy na deng mlynedd ar hugain o brofiad mewn bancio masnachol yn rheoli portffolio o BBaCh gyda throsiant blynyddol o hyd at £15m.

Rwyf wedi fy lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ac yn cefnogi amrywiaeth eang o fusnesau ar draws gwahanol sectorau a diwydiannau ledled de Cymru trwy deilwra pecynnau ariannu i gynorthwyo â’u dyheadau twf.

Rwy’n teimlo'n angerddol ynghylch meithrin perthynas â busnesau Cymreig ar bob cam o’u twf a’u helpu i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt.

Mae gen i BSc Anrh mewn Gwasanaethau Ariannol o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion (UMIST).