Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Annie Ropar

Penodwyd Annie yn Gyfarwyddwr Anweithredol annibynnol Banc Datblygu Cymru ym mis Gorffennaf 2025.

Mae hi’n Gyfarwyddwr Gweithredol ac yn Brif Swyddog Ariannol Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol, ac yn flaenorol bu’n un o’r gweithwyr cyntaf yn Fanc Seilwaith Canada (CIB), gan ymuno fel y Prif Swyddog Ariannol a’r Prif Swyddog Gweinyddol cyntaf.

Bu Annie hefyd yn gweithio am bum mlynedd gyda Aequitas NEO Exchange Inc. (bellach CBOE Canada), ac am naw mlynedd gyda changen Marchnadoedd Cyfalaf Banc Brenhinol Canada, lle bu ei gyrfa’n cynnwys cyllid, ecwiti preifat a masnachu ecwiti sefydliadol.