Anrh. Grŵp Capten Sally Bridgeland FIA

Anrh. Capten Grŵp Sally Bridgeland FIA yw Cadeirydd Banc Datblygu Cymru.

Mae ganddi brofiad gweithredol, cynghori ac anweithredol helaeth ar draws pensiynau a buddsoddi, yn rhychwantu’r sectorau preifat a chyhoeddus – gan wasanaethu mewn rolau fel Cadeirydd Impax Asset Management Group plc a BelleVie Care Ltd, Dirprwy Gadeirydd Brunel Pension Partnership a chyfarwyddwr gweithredol yswirwyr Pension Insurance Corporation a Royal & Sun Alliance.

Mae gyrfa ddiweddar Sally hefyd wedi cynnwys rolau fel Prif Weithredwr cynllun pensiwn BP, cyfarwyddwr anweithredol yn Royal London, ac ymddiriedolwr a chadeirydd pwyllgor buddsoddi yn y Gronfa Rhwymedigaethau Niwclear / Nuclear Liabilities Fund, NEST Corporation a chynlluniau pensiwn Banc Lloyds. Yn ogystal, hi oedd Cadeirydd y gronfa pensiynau llywodraeth leol gyntaf, Local Pensions Partnership Investments (LPPI) Limited o 2015 i 2023.

Tynnwyd sylw at effaith Sally fel Cadeirydd Impax pan enillodd Wobrau Cyfarwyddwyr Anweithredol 2023 – FTSE AIM am ei rôl yn Impax, tra dyfarnwyd iddi yn Gymrawd Anrhydeddus o CFA UK yn hydref 2023, gan gydnabod ei chyfraniad i feddylfryd y proffesiwn actiwaraidd ar fuddsoddiad cynaliadwy.

Ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg o Goleg Imperial ac wedi cael ei hyfforddi gyda Bacon & Woodrow fel actiwari, mae Sally yn Gymrawd Sefydliad yr Actiwarïaid ac wedi gwasanaethu’r proffesiwn actiwaraidd ar ei Gyngor a’i Bwyllgorau proffesiynol.

Mae Sally yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Gymdeithas Frenhinol ar Addysg Fathemateg (a adwaenir yn aml fel ACME) ac yn Gadeirydd y Bwrdd Cynghori Strategol ar gyfer y Ganolfan Gwybyddiaeth Mathemategol ym Mhrifysgol Loughborough. Ar ben hynny, mae’n dal y swydd fel Capten Grŵp Anrhydeddus yn Sgwadron 601 y Llu Awyr Ategol Brenhinol, gan ddarparu mewnwelediadau o fusnes a chyllid i’r uwch dîm arwain yn y Llu Awyr Brenhinol.