Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Cenydd Rowlands

Ers ymuno â’r cwmni yn 2012, rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau gwahanol o fewn ein timau buddsoddi.

Fel cyfarwyddwr eiddo, rwyf bellach yn gyfrifol am gyflawniad strategol ein cronfeydd eiddo, a chynlluniau Cymorth i Brynu Cymru a Hunanadeiladu Cymru.

Gall pobl sydd am brynu cartref newydd gael benthyciad ecwiti tuag at eu blaendal drwy Cymorth i Brynu Cymru.  Mae hyn cefnogi'r diwydiant datblygu eiddo trwy helpu prynwyr sydd â diddordeb i gwblhau pryniannau.

Dros y blynyddoedd, mae ein tîm Cymorth i Brynu Cymru wedi helpu miloedd o bobl i brynu eu cartref. Rydym wedi adeiladu timau arbenigol sy'n deall anghenion amrywiol cwsmeriaid ac amodau newidiol y farchnad er mwyn cefnogi'r diwydiant adeiladu a pherchnogaeth tai.

Mae gen i LLB (Anrh) yn y Gyfraith ac Almaeneg o Brifysgol Caerdydd.