Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Conrad Price

Mae fy rôl yn cynnwys adolygu ceisiadau am fenthyciadau a chreu atebion ariannu wedi'u teilwra ar gyfer busnesau bach.

Rwyf wedi fy lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, sy’n rhoi’r cyfle i mi gefnogi busnesau lleol yn ne Cymru. Rwy’n eu helpu i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt, gan alluogi twf busnes a diogelu swyddi lleol.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn gweithio yn GS Verde Corporate Finance. Roedd fy rôl yn cynnwys gweithio a chynghori busnesau Cymru ar gytundebau gan gynnwys uno a chaffael, gwarediadau, AllRh, MewRh ac YPGau.

Mae gen i BSc 2.1 mewn Economeg o Brifysgol Caerwysg.