Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Daniel Kinsey

Rwy'n gofalu am bortffolio o'n cwsmeriaid, yn gweithio ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau yn ne Cymru.

Cyn ymuno â'r Banc Datblygu ym mis Mawrth 2020, treuliais 14 mlynedd o fy nghyrfa gyda NatWest.

Yn ystod y cyfnod hwn bûm yn gweithio ym maes bancio busnes fel rheolwr perthynas, gan gefnogi busnesau ar draws ystod o ddiwydiannau gan gynnwys masnachu cyffredinol, hamdden ac eiddo.

Yn 2015, cyflawnais y Dystysgrif Banciwr Siartredig mewn Ymarfer Bancio Busnes 2.