David Staziker

Mae David yn arwain timau cyllid, trawsnewid, gweithrediadau a risg portffolio Banc Datblygu Cymru. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Glas Cymru (rhiant gwmni Dŵr Cymru), a bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar Grŵp Codi yn y gorffennol, yn ogystal â bod yn Gadeirydd eu Pwyllgor Buddsoddi.

Ymunodd â Banc Datblygu Cymru yn 2002 ac mae wedi dal nifer o rolau rheoli ar ochr fuddsoddi’r busnes cyn cael ei benodi’n Brif Swyddog Ariannol yn 2018. Cyn ymuno â’r Banc Datblygu, bu David yn gweithio yn PricewaterhouseCoopers a Gambit Corporate Finance.

Mae ganddo radd a PhD mewn Mathemateg Gymhwysol, mae’n gymrawd o’r Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr ac mae hefyd yn meddu ar gymhwyster Cyllid Corfforaethol y Sefydliad.