Hannah Mallen

Rwy’n gweithio yn y tîm buddsoddi mewn sbarduno technoleg, gan adolygu ceisiadau busnes sy’n seiliedig ar dechnoleg cyn y cam cychwynnol ac sydd wedi cyrraedd y cam cychwynnol a chreu atebion cyllido wedi’u teilwra ar gyfer busnesau Cymru. Rwy’n frwd dros wneud gwahaniaeth yn ein hecosystem yng Nghymru ac yn ymddiddori yn y diwydiant Technoleg Ariannol. 

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn rhan o Gynllun Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru a oedd yn cynnwys lleoliad yng Nghymdeithas Adeiladu’r Principality fel Swyddog Graddedig ym maes Cynnyrch a Phrisio, ac yng ngwasanaeth  Cyllid ar gyfer Ceir MotoNovo fel Swyddog Gweithredol Ymchwil i’r Farchnad.

Mae gennyf Ragoriaeth mewn MSc Gwasanaethau Ariannol Cymhwysol, Teilyngdod mewn PGDip Economeg Ariannol, ac Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Rheoli Busnes gyda Chyllid o Brifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.