Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Iwan Berry

Dwi yma i hyrwyddo’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ym Manc Datblygu Cymru – boed hynny’n buddsoddi mewn busnesau ledled Cymru, neu’n lansio cronfeydd newydd i gefnogi eu twf.

Ymunais â’r Banc Datblygu yn 2022, yn dilyn rolau mewn papurau newydd lleol ar draws gogledd Cymru, a gwaith swyddfa’r wasg mewn llywodraeth leol a chenedlaethol.

Wedi fy lleoli yn ein swyddfa yn Wrecsam, rwy'n gweithio gyda chydweithwyr ledled y cwmni i dynnu sylw at eu gwaith caled yn cefnogi busnesau; yn helpu busnesau bach sydd angen benthyciadau i gymryd y cam nesaf ar eu taith twf, neu gefnogi cyflogwyr mawr gyda bargeinion ecwiti gwerth miliynau o bunnoedd.