Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Jo Criddle

Jo yw'r cyfarwyddwr gweithrediadau buddsoddi gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli pob agwedd weithredol ar fuddsoddiadau.

Ymunodd Jo â’r Banc Datblygu yn 2023 i ganolbwyntio ar wella darpariaeth weithredol ar draws yr holl swyddogaethau buddsoddi. Blaenoriaeth Jo yw gwella darpariaeth weithredol yn barhaus, gan sicrhau’r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar draws y sefydliad.

Cyn ymuno â’r sefydliad, mae Jo wedi dal rolau amrywiol mewn banciau rhyngwladol gan gynnwys Goldman Sachs a Citibank, ar draws Llundain, Hong Kong a Singapôr.

Mae gan Jo MSci mewn Mathemateg o Goleg Imperial Llundain, ac mae'n aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Rheolaeth Siartredig.