Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Karl Jones

Rwy'n gofalu am gwsmeriaid presennol yn ogystal ag archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer buddsoddi o Gronfa Eiddo Cymru.

Y rhan fwyaf gwerthfawr o fy swydd i yw gweld prosiect o'i ddechrau i'w ddiwedd, gan wybod ein bod yn helpu pobl i gyflawni eu nodau, gan greu cartrefi a diogelu swyddi yng Nghymru.

Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn cyllid eiddo gan helpu cwsmeriaid i strwythuro cynigion ariannu ar gyfer buddsoddi eiddo a bargeinion datblygu eiddo.

Fe wnes i weithio i’r Bank of Scotland am gyfnod o dros 18 mlynedd, gan ddechrau ar waelod yr ysgol fel clerc iau a gweithio fy ffordd i fyny i rôl rheoli yn y tîm busnes. Ar ben hynny, treuliais 11 mlynedd gyda Principality Commercial yn gweithio yn y tîm eiddo.