Kate Methuen-Ley

Mae Kate yn entrepreneur profiadol, yn gynghorydd ac yn ymgynghorydd rheoli busnes. Mae hi'n defnyddio ei sgiliau i gefnogi, mentora ac ychwanegu gwerth at fusnesau trwy gydol eu teithiau sefydlu a chynyddu. Mae Kate yn gweithio gydag arweinwyr i ganolbwyntio timau ar strategaeth, strwythur, proses, diwylliant a mwy - gan ganiatáu iddynt adeiladu'r sylfeini sydd eu hangen arnynt i dyfu.

Ar ôl gyrfa farchnata lwyddiannus am 15 mlynedd, mewn corfforaethau adnabyddus a busnesau rhanbarthol ar draws amrywiaeth o sectorau, atgyfnerthodd Kate ei phrofiad a’i chariad at her trwy sefydlu’r bartneriaeth menter ar y cyd ar gyfer y manwerthwr stryd fawr o Ddenmarc, Flying Tiger Copenhagen – gan gyflwyno’r brand poblogaidd i’r DU gyda siopau yng Nghymru a Bryste. Ar ôl pum mlynedd, gan lansio wyth cangen wahanol a gyda throsiant o +£5 miliwn, a thros 120 o aelodau tîm  llwyddodd hi a'i phartner busnes i adael y cwmni yn 2018.

Mae gan Kate hefyd brofiad fel aelod o fyrddau cynghori, a phrofiad NED yn y sector menter gymdeithasol a'r sector masnachol. Mae’n darparu mentora ar gyfer busnesau technoleg newydd yn Sefydliad Alacrity ac yn rheoli Rhaglen Clwstwr Allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Technoleg.

Magwyd Kate yn Rhisga ac enillodd BA (Anrh) o Brifysgol Abertawe mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Mae ganddi hefyd MSc mewn Marchnata Strategol o Brifysgol Caerdydd.