Kelsie Taylor

Rwy’n gweithio gyda’n cwmnïau portffolio ecwiti i helpu i gefnogi ac ychwanegu gwerth at y busnes wrth iddynt dyfu a chyflawni eu huchelgeisiau.

Rwyf wedi fy lleoli yn swyddfa Caerdydd, ac ymunais â Banc Datblygu Cymru yn 2023.

Roedd fy mhrofiad blaenorol ym maes cyllid corfforaethol yn cynnwys cefnogi cwmnïau ar draws ystod o sectorau ar draws y DU ac Iwerddon ym meysydd gwarediadau, diwydrwydd dyladwy, codi arian, allbryniannau gan reolwyr a chaffaeliadau.

Rwyf yn gyfrifydd cymwysedig ACCA, a graddiais gyda gradd mewn Cyfrifeg o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.