Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Linzi Plant

Rwy’n helpu i greu atebion cyllido pwrpasol ar gyfer busnesau yng Nghymru sy’n seiliedig ar dechnoleg cyn y cam cychwynnol ac sydd wedi cyrraedd y cam cychwynnol.

Rwy’n gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, yn cefnogi mentrau technoleg ledled Cymru. Gyda fy mhrofiad diweddar o dechnolegau gofal iechyd a’m cefndir yn y gwyddorau bywyd, rwy’n mwynhau dod â thechnolegau newydd i fodolaeth sydd o fudd i ecosystem Cymru hefyd.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn gweithio i CEDAR (Y Ganolfan ar gyfer Gwerthuso, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil Gofal Iechyd), ar y cyd â Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Dechreuodd fy niddordeb mewn ymgysylltu, codi arian a gweithrediadau busnes pan oeddwn yn bennaeth cynllunio strategol a gweithrediadau ar gyfer Prifysgol y Celfyddydau Llundain. Arweiniodd y diddordeb hwn fi i’r Ysgol ar gyfer Busnesau Creadigol Newydd yn Llundain, lle'r oedd adolygu a chefnogi buddsoddiad cynnar mewn busnesau newydd yn rhan o fy rôl fel cynghorydd busnes. 

Mae gennyf BSc (Anrh) mewn Ffisioleg o Brifysgol Lerpwl a PhD mewn Gwyddorau Biofeddygol o Brifysgol Nottingham, ac rwyf wedi gweithio ym maes ymchwil a gofal iechyd yn y DU a Seland Newydd.