Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Lisa Roberts

Fel rhan o’r tîm portffolio, mae fy swydd yn cynnwys helpu cwsmeriaid ledled Cymru gyda microfenthyciadau presennol a chwilio am gyfleoedd newydd ar gyfer rhagor o gyllid.

Ymunais â’r Banc Datblygu yn swyddfa Wrecsam yn 2019. Dechreuais weithio yn ein tîm Help i Brynu – Cymru, cyn symud ymlaen i’r tîm dadansoddi a datblygu busnes yn 2020. Dechreuais fy swydd bresennol ym mis Gorffennaf 2023.