Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Malcolm Green

Fel cynorthwyydd portffolio, rwy'n helpu ein cwsmeriaid gyda'u micro fenthyciadau presennol ac yn edrych am gyfleoedd i'w helpu gyda chyllid ychwanegol.

Ymunais â Banc Datblygu Cymru yn 2018, gan weithio gyntaf yn ein tîm Cymorth i Brynu Cymru. Erbyn hyn, 'rwy'n gofalu am bortffolio o gwsmeriaid micro fenthyciadau yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Rwyf wedi gweithio ym maes gwasanaethau ariannol ers dros 30 mlynedd. Cyn ymuno â'r Banc Datblygu, bûm yn gweithio ym maes benthyca morgeisi a masnachol gyda'r Halifax, Barclays a Countrywide lle bûm yn delio â phob agwedd ar reoli cyfrifon.