Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Owe Carter

Dechreuais flogio gyda Banc Datblygu Cymru yn 2022. Rwyf wedi bod yn awdur a golygydd llawrydd ers dechrau 2019, yn bennaf yn gweithio ar brosiectau fintech a diddordeb defnyddwyr gyda brandiau fel The AA, Admiral, Veygo a BrandContent (sy'n cael ei adnabod fel Folk erbyn hyn).

Rwyf hefyd wedi gweithio gyda GIG Cymru, Prifysgol Caerdydd a Proper Design ar endometriosis.cymru, gan godi ymwybyddiaeth o endometriosis a straeon y rhai sy’n byw gyda’r cyflwr.

Cyn mynd ar fy liwt fy hun, roeddwn yn is-olygydd gyda GoCompare, a chwblhais shifft o 10 mlynedd fel ysgrifennwr copi gyda Confused.com - gan gynnwys cymryd rôl y cyn fasgot BRIAN the Robot ar gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ddod o hyd i mi ar Linkedin.