Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Paul Oldham

Penodwyd Paul yn Gyfarwyddwr Anweithredol annibynnol Banc Datblygu Cymru ym mis Gorffennaf 2025.

Fel Cyfarwyddwr Portffolio ac aelod o Bwyllgor Buddsoddi BGF, ymunodd Paul â’r cwmni buddsoddi ecwiti ym mis Mai 2011 a sefydlodd ac arweiniodd swyddfeydd y cwmni ym Mryste, Caerdydd a Reading. Yn flaenorol bu’n gweithio fel buddsoddwr ecwiti preifat am 16 mlynedd gyda 3i ac LDC.

Ar ôl cymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig gyda KPMG, bu gyrfa Paul hefyd yn cynnwys cyfnod o chwe blynedd fel Partner gyda Grant Thornton, lle arweiniodd dîm cynghori cyllid corfforaethol y cwmni yn Ne-orllewin a De Cymru.