Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Rhys yn gyd-sylfaenydd ac yn Brif Swyddog Masnachol i SportPursuit, - sy'n fanwerthwr ar-lein i aelodau yn unig sy'n canolbwyntio ar chwaraeon a chanddo 6 miliwn o aelodau ledled y DU ac Ewrop.

Cyn dechrau SportPursuit yn 2011, bu Rhys yn gweithio gydag OC&C Strategy Consultants a gyda'r buddsoddwr ecwiti twf yr UD, Summit Partners.
Mae'n dod o Rydaman, ac mae gan Rhys radd Meistr dosbarth 1af mewn Peirianneg o Brifysgol Rhydychen.