Rob Good

Rwy'n gweithio gyda datblygwyr yng ngorllewin Cymru, gan ddarparu benthyciadau rhwng £150,000 a £4 miliwn. Mae ein gallu i ddarparu hyd at 100% o gostau datblygu yn caniatáu inni gynnig hyblygrwydd gyda'n cyllid datblygu.

Rwy'n awyddus i gefnogi datblygwyr sy'n gweithio ledled gorllewin Cymru. Mae'n wych gweld prosiectau'n dwyn ffrwyth, gan wybod pa mor hanfodol yw creu cartrefi a gweithleoedd i economi Cymru.

Ymunais â Banc Datblygu Cymru ym mis Rhagfyr 2019 ar ôl gyrfa o 17 mlynedd gyda NatWest. Yn ystod yr amser hwn bûm yn gweithio ym maes bancio busnes yn bennaf fel rheolwr perthynas yn cefnogi busnesau gorllewin Cymru ar draws diwydiannau amrywiol gan gynnwys; gofal iechyd, hamdden, masnachu cyffredinol, amaethyddiaeth ac eiddo.

Yn 2014, llwyddais i gael y Dystysgrif Banciwr Siartredig mewn Ymarfer Bancio Busnes 2.