Rob Lamb

Entrepreneur digidol yw Rob ac uwch arweinydd profiadol yn y diwydiant buddsoddi byd-eang, gyda phrofiad amlwg mewn datblygu busnes a gwneud penderfyniadau buddsoddi hirdymor.

Mae Rob yn gyd-sylfaenydd Hedgehog, yr ap sy’n ei gwneud hi’n hawdd i unigolion fuddsoddi yn asedau’r byd go iawn, fel eiddo tirol masnachol ac ynni adnewyddadwy.

Cyn bywyd fel entrepreneur, treuliodd Rob 10 mlynedd yn Partners Group, un o reolwyr rheoli asedau mwya’r byd gan ganolbwyntio ar fuddsoddiadau mewn marchnadoedd preifat. Yn ystod ei gyfnod yn y cwmni, gweithiodd Rob yn Llundain, Zurich, San Francisco a Dubai.

Bu Rob yn gyfarwyddwr anweithredol yr ymgynghoriaeth buddsoddi effaith gymdeithasol Expectation State a FairPlay Trading, cangen fasnachol elusen cyddraddoldeb rhywiol Cymru, Chwarae Teg.

Yn siaradwr Cymraeg, mae Rob hefyd yn un o raddedigion Prifysgol Caerdydd.