Steve Holt

Fel cyfarwyddwr, mae gennyf gyfrifoldeb cyffredinol dros Fuddsoddiadau Angylion Cymru. Mae gan Fuddsoddiadau Angylion Cymru dîm craidd o chwech a grŵp cofrestredig o dros 100 o fuddsoddwyr angel.

Mae gen i brofiad datblygu economaidd sylweddol a minnau wedi arwain timau a rhaglenni Llywodraeth Cymru a Chynllun Datblygu Cymru, hyrwyddo arloesedd, masnach, datblygu'r gadwyn gyflenwi a mewnfuddsoddi yn benodol.

Rwyf wedi sefydlu timau a swyddfeydd yn Ewrop yn flaenorol ac yn ddiweddar yn Llundain.

Fel proffesiwn, 'rwy'n beiriannydd mecanyddol, ac 'rwyf wedi mwynhau gyrfa reoli ym maes cytundebau gweithgynhyrchu cyn i mi symud i'r sector gyhoeddus 20 mlynedd yn ôl.

Rwy'n gyd-aelod o'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig, ac mae gen i MBA o Brifysgol Morgannwg.