Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Tom Davies

Rydw i’n angerddol am dechnolegau newydd sy’n datrys problemau’r byd go iawn ac mae fy rôl yn fy ngalluogi i gefnogi busnesau newydd ym maes technoleg drwy strwythuro atebion ariannu effeithiol, wedi’u teilwra.

Rydw i’n gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, sy’n rhoi cyfle i mi gefnogi busnesau lleol yn Ne Cymru.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn i’n gweithio i Deloitte yn eu hadran archwilio technoleg ariannol. Roedd fy rôl yn cynnwys archwilio busnesau technoleg ariannol yn eu cyfnod twf, a hynny ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys rheoli cyfoeth, bancio busnesau bach a chanolig a benthycwyr.

Rydw i’n gyfrifydd siartredig; yn archwilydd cymwysedig ac mae gen i radd dosbarth cyntaf BSc mewn Mathemateg o Brifysgol Bryste.