Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Tom Preene

Fi yw rheolwr cronfa Angylion Buddsoddi Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu rhwydwaith o fuddsoddwyr deinamig a’u cefnogi i fuddsoddi mewn busnesau addawol yng Nghymru.

Rwy'n gweithio yng Nghaerdydd yn arwain tîm Angylion Buddsoddi Cymru i ddatblygu rhwydwaith clyfar, gweithredol ac amrywiol o angylion – gan gydweithio’n agos â busnesau sy’n ceisio ymgysylltu â’n cymuned o angylion buddsoddi.

Hefyd, rwy'n cydlynu’r gwaith o gyflwyno Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru ar ran y Banc Datblygu, gan helpu i sbarduno a chynyddu buddsoddiad angylion mewn busnesau arloesol a dyfeisgar yng Nghymru, a hynny mewn cydweithrediad â’n cynghreiriau o angylion buddsoddi.

Ymunais â thîm Angylion Buddsoddi Cymru ym mis Ebrill 2019 ar ôl treulio 11 mlynedd gyda Coutts & Co, lle’r oeddwn yn fanciwr preifat rheoledig yn gofalu am bortffolio o unigolion cefnog. Rydw i hefyd wedi gweithio i NatWest, Nationwide a Handelsbanken yn fy ngyrfa.