Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Adolygiad cyfradd llog

Mae ein cyfraddau llog yn ddarostyngedig i gael eu hadolygu'n rheolaidd, ac mae hynny'n cynnwys cynnal ymarfer meincnodi annibynnol blynyddol.

Canfyddiadau

Bob blwyddyn byddwn yn comisiynu arbenigwr annibynnol i adolygu ein ffioedd a'n polisi a'n hymarfer cyfraddau llog er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn unol â'r farchnad ac yn cael eu cymhwyso'n deg ac yn gyson.

Roedd yr adolygiad prisio annibynnol diweddaraf yn samplu 10% o'r holl drafodion a gwblhawyd yn 2018 a chyfraddau meincnodedig a ffioedd yn erbyn cymaryddion y farchnad. Nododd yr adolygiad hwn bod:

  • 90% o'r cwmnïau a ariennir ar gyfradd llog y farchnad neu'n is na hynny
  • Mae'r cyfraddau llog cyfartalog a godir ar bob cronfa wedi'u meincnodi yn ffafriol gyda chymaryddion y farchnad.
  • Yr oedd y ffioedd trefnu a feincnodwyd yn sylweddol is na chymaryddion y farchnad.
  • Ni allai 48% o'r trafodion a samplwyd fod wedi cael mynediad at gyllid gan y sector preifat