Polisi prisio

Wrth ddatblygu ein polisi prisio ar gyfer ein holl gyfraddau a ffioedd, mae Banc Datblygu Cymru yn ystyried nifer o ffactorau.

Egwyddor gweithredydd economaidd y farchnad

Mae ein cronfeydd ariannol ni yn ddarostyngedig i Egwyddor Gweithredydd Economaidd y Farchnad (EGEM). Mae'r egwyddor hon yn caniatáu i gyrff cyhoeddus ymgymryd â thrafodiad heb ysgogi cymorth gwladwriaethol cyn belled â'i fod yn cael ei gyflawni o dan amodau'r farchnad arferol. Caiff y rhain eu cyfrifo gan gyfeirio at Gyfradd Gyfeirio Ewrop, dilysrwydd credyd busnes a'r lefel diogelwch sydd ar gael i'r benthyciwr. 

Safbwynt ariannwr bwlch

Fel ariannwr bwlch a chyd-fuddsoddwr gweithredol, rydym yn anelu at sicrhau nad yw'r prisiau a godwn yn disodli'r sector breifat. Un o'n mesurau llwyddiant yw ein gallu i ddenu buddsoddwyr o'r sector preifat fel banciau, cwmnïau ecwiti preifat, angylion busnes neu fuddsoddwyr sefydliadol i fuddsoddi ochr yn ochr â ni.

Gofynion rhanddeiliaid

Mae ein prisiau hefyd yn cael eu penderfynu gan y rhanddeiliaid sy'n buddsoddi yn ein cronfeydd. Yn nodweddiadol, mae ein cronfeydd yn derbyn lefel uwch o risg gyda'n benthyca ni na darparwyr sector preifat tebyg. Felly, mae ein prisiau, yn rhannol, yn cael eu dylanwadu gan lefel y risg a lefel y diffygion a brofir gennym.

Adolygiad prisio annibynnol

Rydyn ni'n cynnal ymarfer meincnodi annibynnol rheolaidd i weld sut mae ein cyfraddau llog yn cymharu â darparwyr benthyciadau eraill yn y farchnad. Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2019/20, rydym yn newid ein gweithdrefnau prisio fel bod yr adolygiad prisio annibynnol yn hysbysu ffioedd a ffioedd trefnu ar ein benthyciadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.