Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Menter Technoleg (BMT)

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio cyfarwyddwr buddsoddiadau menter technoleg (BMT) a fydd yn seiliedig yn Wrecsam neu yn Nghaerdydd a theithio o gwmpas Cymru.

Pwrpas y swydd

Fel aelod o'r tîm Arweinyddiaeth Buddsoddiadau, mae'r cyfarwyddwr Buddsoddiadau Menter Technoleg yn gyfrifol am arwain buddsoddiadau technoleg cam cynnar Banc Datblygu Cymru (BDC). Bydd y Cyfarwyddwr yn arwain tîm sy'n gyfrifol am gyflawni buddsoddiadau sbarduno a buddsoddiadau cyfalaf menter i gwmnïau technoleg gyfoethog sydd wedi'u lleoli yn, neu sy'n adleoli i, Gymru, a rheoli'r portffolio menter yn dilyn hynny.

Bydd yr unigolyn yn arwain ac yn rheoli tîm o weithwyr proffesiynol sy'n cyflawni cyfrifoldebau buddsoddi a phortffolio, yn bennaf yn buddsoddi ecwiti ond yn cael yr hyblygrwydd i ddefnyddio offerynnau dyled os yw'n addas.

Bydd y Cyfarwyddwr yn cael ei integreiddio'n llawn yn nhirwedd technoleg Cymru ac yn adeiladu perthynas gydag ystod o bartneriaid cyd-fuddsoddi. Mae yna gyfle i lunio dyfodol cyflawni'r cronfeydd o dan reolaeth yn weithredol yn ogystal â chwarae rhan wrth sicrhau cronfeydd yn y dyfodol.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Arwain, rheoli a chymell tîm o unigolion sy'n gyfrifol am fuddsoddi a rheoli portffolio'r Cronfeydd sbarduno a menter technoleg a reolir gan BDC. Datblygu a gweithredu gweithdrefnau rheoli perfformiad addas i gyflawni allbynnau'r gronfa gytunedig. Mae'r ffocws ar gyflawni targedau buddsoddi tra'n cadw'r cydbwysedd cywir yn erbyn yr enillion a gwerth cynyddol yn ein buddsoddiadau sy'n gweithio tuag at ymadawiad proffidiol ac amserol ar gyfer BDC. Byddwch yn gweithredu bob amser yn unol â Chanllawiau Gweithredu Buddsoddi a pholisi a gweithdrefnau BDC.
  • Darparu'r lefel briodol o reolaeth portffolio, gan gynnwys cymryd rhan mewn adolygiadau asedau blynyddol a phwyllgorau prisio sy'n digwydd bob dwy flynedd.
  • Gweithio'n agos gyda thîm risg BDC i sicrhau ffocws digonol ac ymyrraeth amserol ar asedau sy'n tan berfformio
  • Ar y cyd â Chyfarwyddwyr Buddsoddi eraill, cyfrannu at ddatblygu strategaeth reoli cronfeydd BDC yng Nghymru, gan gynnwys cyflawni cronfeydd ariannol presennol yn llwyddiannus, nodi cyfleoedd marchnad a chynigion ar gyfer cronfeydd newydd.
  • Ar y cyd â'r Cyfarwyddwyr eraill, paratoi adroddiadau chwarterol ar gyfer rhanddeiliaid allweddol ar draws yr ystod o gronfeydd a ddarperir gan BDC. Mynychu cyfarfodydd adolygu chwarterol gyda Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (a adwaenir yn aml fel WEFO) ac unrhyw randdeiliad eraill pan fo angen.
  • Cyfrannu ar sail chwarterol i'r Cofrestrau Risg perthnasol ar gyfer BDC.
  • Adeiladu proffil BDC yn allanol, gyda phresenoldeb rheolaidd a chyflwyniadau mewn Digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio yn ogystal â chynnal rhwydwaith personol gweithredol.
  • Adolygu a / neu sancsiynu cyfleoedd buddsoddi o fewn awdurdod dirprwyedig personol ac fel aelod o'r panel hysbysu rhagarweiniol sy'n cymeradwyo'r telerau amlinellol a'r gofynion diwydrwydd ar gyfleoedd buddsoddi, gan sicrhau y cydymffurfir â'r Canllawiau Gweithredu Buddsoddi bob amser.
  • Goruchwylio gweithgaredd sancsiynu'r Gronfa a Dirprwy Reolwr y Gronfa trwy gynnal adolygiadau rheolaidd a pharhaus o sampl o'u cytundebau cymeradwy. Ar y cyd â Chyfarwyddwyr eraill sy'n gysylltiedig â buddsoddiad, sicrhau bod y cydbwysedd  cywir o risg yn erbyn enillion yn cael eu cymhwyso'n gyson ar draws y grŵp a darparu adborth datblygiadol fel y bo'n briodol. 
  • Mynychu Pwyllgor Buddsoddi ochr yn ochr ag aelodau'r tîm ar gyfer y buddsoddiadau hynny sy'n disgyn y tu allan i'r awdurdod dirprwyedig personol
  • Hyrwyddo boddhad cwsmeriaid rhagorol a chwilio am gyfleoedd i wella profiad y cwsmer trwy brosesau gwell a thryloywder cynyddol.
  • Gweithio gyda'r tîm marchnata a datblygu busnes o fewn BDC i yrru cyfleoedd buddsoddi o ansawdd cynyddol i'r timau.
  • Adeiladu cysylltiadau cryf â Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Cymru a chyflymwyr busnes i gynyddu proffil BDC a chynyddu llif cyfleoedd buddsoddi o ansawdd.
  • Adeiladu cysylltiadau â buddsoddwyr Sbarduno a Chyfalaf Menter eraill yn y dechnoleg er mwyn sicrhau bod ffynhonnell gyd-fuddsoddi o safon uchel ar gael ar gyfer BDC.
  • Adeiladu rhwydwaith o gyfarwyddwyr anweithredol posibl a Chadeiryddion, ynghyd ag ymgynghorwyr, a fydd yn gallu ychwanegu gwerth at ein cwmnïau  buddsoddai.
  • Chwarae rôl allweddol yn nhirwedd Technoleg Cymru wedi'i integreiddio â chyllidwyr eraill, cefnogaeth y sector gyhoeddus, Prifysgolion a deoryddion / cyflymwyr.
  • Sefydlu cysylltiadau a phartneriaethau â phartïon perthnasol y tu allan i Gymru, gan gynnwys cymorth sector gyhoeddus, cyd-fuddsoddwyr ac unrhyw ffynonellau posibl o lif cytundebau.
  • Arwain diwylliant o gydymffurfiaeth ac ansawdd ar draws pob maes gwaith.
  • Unrhyw dasg arall y gellir ei diffinio gan Gyfarwyddwr Buddsoddi - Cymru i ddiwallu anghenion gweithredol y sefydliad.

 

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Sgiliau arweinyddiaeth ardderchog gyda phrofiad profedig mewn buddsoddiadau cyfalaf menter technoleg.
  • Profiad o gyflawni targedau buddsoddi mewn amgylchedd dan bwysau a / neu brofiad o gyflawni rheolaeth portffolio sy'n ychwanegu gwerth a phrofiad ymadawiad cryf.
  • Profiad o fuddsoddiadau yn yr amrediad £200,000 - £5,000,000.
  • Cefndir technoleg cryf gyda'r gallu i asesu cynigion buddsoddi technoleg cymhleth.
  • Craffter ariannol cryf.
  • Hanes /cofnod o ddarparu lefel uchel o wasanaeth a bodlonrwydd cwsmeriaid
  • Hanes / cofnod o gyflawni allbynnau o safon uchel gyda ffocws ar gydymffurfiaeth.
  • Chwaraewr tîm sydd â'r gallu i weithio ar draws sefydliad mewn modd cydweithredol.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog, gan gynnwys y gallu i gyflwyno i ystod eang o gynulleidfaoedd.
  • Yn meddu ar gymhelliant cryf, yn gallu ysgogi grŵp amrywiol o unigolion â lefelau gwahanol o brofiad a gyrwyr.
  • Cofnod o reoli perfformiad yn effeithiol a rheoli newid yn llwyddiannus
  • Y gallu i weithredu ar lefel strategol uwch.
  • Y gallu i feithrin perthynas â chyrff corfforaethol a rhanddeiliaid lefel uchel.
  • Meddylfryd pragmatig a masnachol gyda sgiliau negodi gwneud  penderfyniadau cryf.
  • Y gallu i flaenoriaethu i fodloni amserlenni tynn
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu brofiad perthnasol mewn diwydiant

Dymunol 

  • Wedi rhwydweithio'n dda yng nghymuned busnes a thechnoleg Cymru.
  • Dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i ddiwallu gofynion busnesau yng Nghymru a'r gefnogaeth yn y sector cyhoeddus sydd ar gael.
  • Dealltwriaeth o Grŵp BDC a'i weithgareddau
  • Profiad o fuddsoddi arian cyhoeddus a dealltwriaeth o'r cymhwyster a'r amgylchedd cymorth gwladwriaethol.
  • Yn gyfarwydd â strategaethau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru
  • Siaradwr Cymraeg
  • Profiad blaenorol o weithio mewn cwmni a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

dyddiad cau

10th Hydref 2021