Cyfrifydd Ariannol

Rydym yn chwilio am Gyfrifydd Ariannol i weithio yng Nghymru. Contract cyfnod penodol am 15 mis fydd hwn.

Pwrpas y swydd

Wedi’i lleoli yn Adran Gyllid Grŵp Banc Datblygu Cymru, diben y swydd hon yw arwain y broses fisol o adolygu a rhannu gwybodaeth/cyfrifon rheoli a gynhyrchir gan y cynorthwywyr ariannol, a pharatoi is-ddatganiadau ariannol blynyddol. Byddwch chi’n helpu’r Rheolwr Cyllid i gynnal swyddogaeth gyfrifyddu Banc Datblygu Cymru.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

  • Adolygu a darparu sylwadau ar gyfrifon rheoli misol a gynhyrchir gan y cynorthwywyr ariannol yn unol â’r fformat a’r amserlen y cytunwyd arnynt.
  • Darparu her a sylwebaeth gwerth ychwanegol i ddeiliaid cyllideb ar berfformiad wrth rannu’r cyfrifon rheoli/gwybodaeth reoli.
  • Paratoi datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer is-gwmnïau o fewn Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Adolygu cysoniadau diwedd mis o gyfrifon rheoli allweddol.
  • Goruchwylio cydymffurfiaeth TAW ar draws y Grŵp, gan gysylltu ag arbenigwyr allanol yn ôl yr angen.
  • Goruchwylio gweithgareddau cyflogres, gan gynnwys adolygu’r gyflogres fisol ar gyfer dau endid statudol.
  • Adolygu ac awdurdodi taliadau banc.
  • Rheoli dau is-weithiwr uniongyrchol gyda chyfrifoldeb allweddol dros brosesu anfonebau cyfriflyfrau prynu, trafodion cardiau credyd a hawliadau teithio a chynhaliaeth.
  • Arwain a chymell is-weithwyr uniongyrchol i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar eu potensial. Bydd hyn yn cynnwys monitro a phennu amcanion o fewn cynllun adolygiad rheoli perfformiad Banc Datblygu Cymru.
  • Helpu i reoli’r gweithdrefnau cyfrifyddu a rheoli arian sy’n diogelu asedau’r cwmni.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i nodi meysydd o wendid, a gweithio ar draws adrannau i nodi gwelliannau a’u rhoi ar waith.
  • Cynorthwyo’r Rheolwr Cyllid i ddatblygu a gwella’r systemau cyfrifyddu a systemau cysylltiedig, yn unol ag arferion gorau.
  • Cydweithredu â swyddogion Llywodraeth Cymru, ymgynghorwyr, ac archwilwyr mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
  • Unrhyw dasgau eraill a nodir gan y Rheolwr Cyllid i ddiwallu anghenion gweithredol y Banc Datblygu

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Cymhwyster ACA / ACCA / CIMA. 
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyfrifyddu technegol.
  • Gwybodaeth am baratoi datganiadau ariannol o dan IFRS.
  • Profiad o fod yn rheolwr llinell.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Hyddysg ym maes TG ac yn gallu defnyddio cyfres o gynnyrch Microsoft Office.
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm.

Dymunol

  • Gallu cyfathrebu’n Gymraeg.
  • Ymwybyddiaeth o Grŵp Banc Datblygu Cymru.
  • Cyfarwydd â rhaglen SAGE 200 neu becynnau cyfrifyddu tebyg.
  • Cyfarwydd â systemau rheoli Portffolio.
  • Cyfarwydd â Power BI ac offer rheoli data eraill.
  • Agwedd hyblyg a hunan-gymhellol at waith.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda