Cymhorthfa cyllid ar gyfer twf busnesau yn y dyfodol Wrecsam

Oes gennych chi syniad busnes? Ydych chi am dyfu busnes sy'n bodoli eisoes? Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Wrecsam, rydym yn cynnal cymhorthfa cyllid ar gyfer twf yn y dyfodol. Apwyntiadau preifat cyfrinachol yn unig.

Mae apwyntdiadau ar gael rhwng 9.30 - 15:00 ar:

12 Chwefror, yn Swyddfa 3A, Twr Redwither Tower, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9XT

Fel cynrychiolwyr lleol, rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni’n gweithio â nhw yn sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnyn nhw i helpu gyda chostau cychwynnol neu i gefnogi twf.

Yn y sesiwn gallwch ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael gan y sefydliadau uchod. Gan weithio gyda’n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

Os ydych chi’n fusnes sy’n dechrau neu’n fusnes sy’n bodoli eisoes dewch i siarad â ni am eich busnes a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

I archebu’ch slot 30 munud, e-bostiwch catherine.howell@bancdatblygu.cymru

Fel arall gallwch ei ffonio hi ar 07708 344833.

Os na allwch fynychu apwyntiad ar y diwrnod hwn, cysylltwch â ni a gallwn wneud trefniadau amgen.

Pwy sy'n dod