Cymorth i Brynu - Cymru - rheolwr tîm casgliadau a thrin cwynion

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio Cymorth i Brynu - Cymru - rheolwr tîm casgliadau a thrin cwynion yn Wrecsam neu yn Nghaerdydd. Cyflog £25,000 - £30,000.

Pwrpas y swydd

Rheoli holl agweddau gweithredol y Tîm Casgliadau a Thrin Cwynion newydd. Bydd deiliad y rôl yn gyfrifol am weithredu polisi newydd Caledi Ariannol a Rheoli Ôl-ddyledion Llywodraeth Cymru, datblygu pob system, proses a gweithdrefn a recriwtio a hyfforddi staff.

Rheoli'r broses a gweithdrefnau Cwynion presennol yn unol â chanllawiau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA).

O dan gyfarwyddyd Dirprwy Reolwr y Gronfa, byddwch yn gyfrifol am gydlynu'r gweithgareddau gweinyddol a chasgliadau o ddydd i ddydd o fewn Tîm Ôl-ddyledion a Chasgliadau Ôl-Werthu CiBC. Sicrhau bod targedau mewnol a thargedau Adran Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni.

Rhoi Polisïau Caledi ac Ôl-ddyledion ar waith, a rheoli tîm o Gynghorwyr Casglu a Chwynion. Mae angen goruchwylio, hyfforddi a datblygu eich tîm ar gyfer y rôl er mwyn cyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA). I wneud hyn byddwch yn torri targedau i lawr, yn dirprwyo llwythi gwaith i gynghorwyr ac yn monitro perfformiad.

Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod eich tîm yn casglu balansau sy'n weddill ar y cyflymder gofynnol, gan gyflawni hyn trwy fynd ati’n rhagweithiol i fonitro galwadau ac ystadegau.

Fel ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl hon, dylech fod yn arweinydd tîm profiadol, yn oruchwyliwr neu'n hyfforddwr perfformiad sydd â hanes profedig o weithio mewn amgylchedd cyflym tebyg ac mae profiad o gasgliadau yn hanfodol.

Rhagwelir y bydd y cyfnod buddsoddi ar gyfer y gronfa Cymorth i Brynu - Cymru wedi'i ddyrannu'n llawn erbyn 2021, pan ragwelir y bydd £454m wedi'i fuddsoddi mewn 11,000 o adeiladau newydd yng Nghymru. Gellir byrhau neu ymestyn hyn yn dibynnu ar lif y fargen.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth lawn o'r gofynion cydymffurfiaeth, polisïau'r cwmni a gweithdrefnau adrannol sy'n ymwneud â'ch rôl.
  • Ymgymryd â gwaith monitro ar bortffolio cleientiaid yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr y Gronfa. Gall hyn gynnwys mynd ar drywydd debydau ac ôl-ddyledion uniongyrchol wedi'u canslo, anfon datganiadau, anfon llythyrau allan yn rhoi gwybod am newidiadau i'r debydau uniongyrchol.
  • Darparu arweiniad technegol, hyfforddiant a gwybodaeth lle bo angen ar gyfer aelodau o dîm CiBC.
  • Bod yn gyfrifol am greu a gweithredu llifoedd gwaith, prosesau a gweithdrefnau cadarn.
  • Chwilio am a datblygu cyfleoedd i newid arferion gwaith cyfredol.
  • Rheoli ac ysgogi cynghorwyr CiBC yn rhagweithiol, gan ysgogi gwelliant parhaus. Nodi gofynion hyfforddi a datblygu a gweithredu fel hyfforddwr i sicrhau arfer gorau.
  • Rheoli perfformiad a chymwyseddau unigolion a thimau yn weithredol gan gynnwys cynnal sesiynau un i un, adborth ar berfformiad, cynnal adolygiadau perfformiad, rheoli absenoldeb a rheoli gofynion adnoddau.
  • Gweithredu fel pwynt uwch gyfeirio ar gyfer eich tîm. Bydd angen meddu ar y gallu i ymdopi gydag ystod o wahanol sefyllfaoedd ac ymateb yn unol â hynny gyda diplomyddiaeth, tact ac empathi i osgoi gwrthdaro a allai fod yn llawn tensiwn a hynny mewn modd cadarnhaol a digynnwrf. Adnabod cwsmeriaid bregus a delio â nhw yn unol â hynny.
  • Sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ofynion rheoliadol a sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â'r canllawiau gweithredu. Sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau diwydrwydd dyladwy a gwyngalchu arian ac awgrymu hyfforddiant yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod safonau Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a safonau diogelwch gwybodaeth trwyadl yn cael eu cynnal gan y tîm bob amser.
  • Sicrhau bod unrhyw adroddiadau monitro perfformiad neu berfformiad y gofynnir amdanynt yn cael eu cyflwyno mewn pryd a bod gwybodaeth gywir yn cael ei chyfleu ar gyfer cwsmeriaid mewnol ac allanol.
  • Sicrhau bod systemau Centrac a Result yn cael eu diweddaru i ganiatáu cofnodi gwybodaeth berthnasol ar gyfer Cwsmeriaid yn y cynllun Cymorth i Brynu - Cymru. Sicrhau bod y meysydd gwybodaeth gofynnol yn cael eu cynnal a'u cwblhau, gan ddefnyddio adroddiadau unigol yn rhagweithiol, er mwyn sicrhau bod yr holl feysydd gorfodol wedi'u diweddaru.
  • Cyfrifoldeb gweithredol dyddiol llinell gyntaf dros ddirprwyo a rheoli llwythi gwaith y tîm yn rhagweithiol i sicrhau bod gofynion CLG yn cael eu bodloni, gan gynnwys eich llwyth achosion chi eich hunan.
  • Cadw at yr holl amseroedd ymateb DPA / CLG wrth brosesu dogfennaeth, fel y nodwyd ac y cytunwyd â Llywodraeth Cymru ac fel y'i cynhwysir yng nghytundeb Rheoli’r Gronfa.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran (bydd y swydd hon yn golygu bod gofyn gweithio y tu allan i oriau o bryd i'w gilydd).

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol 

  • Gwybodaeth am adferiadau a chasgliadau.
  • Profiad o reoli llinell.
  • Profiad o reoli perfformiad, hyfforddi / 1 i 1, disgyblu.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid lle mae profiad y cwsmer yn cael ei drin fel blaenoriaeth.
  • Ymagwedd gyfrifol
  • Profiad o ymdrin â chwynion uwch gyda dealltwriaeth o bolisïau cwynion sylfaenol cwsmeriaid.
  • Y gallu i gadw at weithdrefnau gweinyddol llym mewn perthynas â chyflawni CLGau gofynnol.
  • Cyfathrebwr effeithiol sy’n cynnal dull proffesiynol bob amser
  • Yn meddu ar hunan-gymhelliant, yn gallu mentro ac ysgogi eraill mewn amgylchedd sy'n cael ei yrru gan dargedau.
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Hyderus yn eich sgiliau gwneud penderfyniadau chi eich hun.
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau.
  • Wedi'ch addysgu i safon dda o addysg gyffredinol - TGAU, NVQ lefel 2/3 neu safon gyfatebol

Dymunol

  • Profiad morgais ail arwystl.
  • Profiad rheoleiddio.
  • Siaradwr Cymraeg.
  • Trwydded Yrru.

Gofynion eraill

  • Llythrennog mewn TG gan gynnwys defnyddio systemau Microsoft Word, Excel, PowerPoint, Dynamics a Sharepoint, CRM, Cyllid.

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais

Dyddiad cau 11 Medi.