Cynhadledd twristiaeth a busnes Canolbarth Cymru

Bydd Gaynor Morris, ein swyddog micro-fuddsoddi lleol, yn mynychu cynhadledd twristiaeth a busnes Canolbarth Cymru.

 Bydd y gynhadledd yn rhoi sylw i'r heriau sy’n wynebu busnesau twristiaeth a lletygarwch yn yr ardal, sut i ddenu ymwelwyr, yn ogystal â thrafod sut gall y diwydiant gydweithio er mwyn marchnata canolbarth Cymru i gynulleidfaoedd targed.

Bydd Gaynor yn sôn am sut gall Banc Datblygu Cymru gefnogi busnesau lleol mewn modd hyblyg.

Yn anffodus, does dim rhagor o docynnau ar ôl ar gyfer y digwyddiad hwn, ond rhowch alwad i ni ar 02920 338 110 os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r digwyddiad.

Pwy sy'n dod