Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

 

Ein hymagwedd ni

Mae buddsoddi mewn busnesau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn helpu i wneud ein cymdeithas yn fwy cyfartal, cynhwysol a chydlynol. Mae buddsoddi mewn gwelliannau i ble mae pobl yn gweithio ac yn byw yn hybu iechyd a lles. Un o’n hamcanion strategol hyd at 2027 yw cefnogi cynhwysiant ariannol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chreu effaith gadarnhaol yn economi Cymru.

Rydym yn gweithio’n agos gyda busnesau a rhanddeiliaid yng Nghymru drwy gydweithio doeth i sicrhau bod ein cyllid yn cefnogi cynhwysiant ariannol ar draws sectorau a demograffeg. I gefnogi hyn rydym yn gwella ein cynllun cynhwysiant cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda ffocws arbennig eleni ar gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig - mae ffocws blaenorol wedi cynnwys mentergarwyr benywaidd a mentergarwyr ifanc.

Yn ogystal â busnesau a pherchnogion busnes, mae ein sylfaen cwsmeriaid amrywiol hefyd yn ymestyn i gartrefi trwy gynlluniau gwasanaethau buddsoddi gan gynnwys Hunanadeiladu Cymru, Cymorth i Brynu - Cymru a chymorth morgais Cymorth i Aros. Gyda'r olaf yn benodol, mae ein tîm yn cynnig lefelau arbenigol a gwell o reoli achosion cwsmeriaid sy'n agored i niwed gan gydnabod amgylchiadau anodd y cwsmer.

 

 

Rhyw yn seiliedig ar ymatebion tua 1,654 o berchnogion/cyfarwyddwyr/cyfranddeiliaid unigol a ddarparodd y data demograffig hwn. 

Ethnigrwydd yn seiliedig ar ymatebion tua 899 o berchnogion/cyfarwyddwyr/cyfranddeiliaid unigol a ddarparodd y data demograffig hwn.

Oedran yn seiliedig ar ymatebion tua 1692 o berchnogion/cyfarwyddwyr/cyfranddeiliaid unigol a ddarparodd y data demograffig hwn. 

Yn 2023/24, dywedodd 29 o berchnogion/cyfarwyddwyr/cyfranddeiliaid unigol fod ganddynt anabledd. Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cydnabod bod pobl anabl yn bobl â namau sy’n anabl oherwydd rhwystrau (agweddau, amgylcheddol a threfniadol) sy’n eu hatal rhag cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd. Nam cymdeithasol yw ‘anabledd’; ac mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ei gwneud yn ofynnol i gymdeithas gael gwared ar y rhwystrau er mwyn i bawb gael cydraddoldeb.

Efallai na fydd pob canran yn hafal i 100 oherwydd talgrynnu.

Ffynhonnell: Ffurflenni Effaith Buddsoddiad 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024

 

Ein mentrau

Fe wnaethom gomisiynu Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyn lansio’r Banc Datblygu ym mis Hydref 2017, a chomisiynu adroddiad pellach ychydig ar ôl 5 mlynedd ers sefydlu’r Banc Datblygu yn gynnar yn 2023. Cynhaliwyd y ddau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb gan ymgynghorwyr allanol a gwnaethant gyfres o argymhellion ar wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym wedi mabwysiadu dull graddol ac wedi’i dargedu o weithredu’r argymhellion, gan geisio nodi a mynd i’r afael â rhwystrau ar gyfer grwpiau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol. Hyd yn hyn, rydym wedi canolbwyntio ar, ac wedi rhoi camau gweithredu penodol ar waith i gefnogi, mentergarwyr benywaidd, mentergarwyr ifanc, ac ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar sut y gallwn gefnogi mentergarwyr o Leiafrifoedd Ethnig yn well.

Cod Buddsoddi mewn Merched

Ym mis Awst 2021, daethom yn llofnodwyr i’r Cod Buddsoddi mewn Merched 

Investing In Women Code

Mae’r Cod Buddsoddi mewn Merched yn ymrwymiad i gefnogi datblygiad mentergarwch ymhlith merched yn y DU drwy wella mynediad i fentergarwyr benywaidd at offer, adnoddau a chyllid o’r sector gwasanaethau ariannol.

Mae Banc Datblygu Cymru, fel llofnodwr, yn rhannu ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i wneud y DU yn un o’r gwledydd mwyaf deniadol yn y byd i ddechrau a thyfu busnes drwy hybu mentergarwch benywaidd.

Mae'r Cod Buddsoddi mewn Merched wedi'i gynllunio ar gyfer pob sefydliad sy'n ariannu mentergarwyr. Mae’r Cod yn ymrwymo sefydliadau i hyrwyddo entrepreneuriaeth benywaidd drwy:

 

YmrwymiadSut rydym yn mynd i'r afael ag ef
Cael aelod enwebedig o’r uwch dîm arwain sy’n gyfrifol am gefnogi cydraddoldeb o ran mynediad at gyllid.

Ein harweiniad yw Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Cymru.

Cynyddu tryloywder data cwmnïau gwasanaethau ariannol ynghylch cymorth i  fentergarwyr benywaidd.Rydym yn cynyddu tryloywder drwy gynnwys y data yn ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon, ac ar y dudalen hon.
Darparu data i’r corff diwydiant a enwebir gan yr Adran Busnes a Masnach i’w gyhoeddi’n flynyddol ar sail agregedig a dienw.

Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers 2022.

Mabwysiadu arferion mewnol i wella'r rhagolygon ar gyfer  mentergarwyr benywaidd.

Mae'r dudalen hon yn manylu ar rai o'r ffyrdd yr ydym yn gwella'r rhagolygon ar gyfer entrepreneuriaid benywaidd.

 

 

Hyb Buddsoddi mewn Merched

Banc Datblygu Cymru ac Angylion Buddsoddi Cymru ill dau wedi’u rhestru ar yr Hyb Buddsoddi mewn Merched.

 

Angylion Cymru sy’n Ferched

Hwylusodd Banc Datblygu Cymru ac Angylion Buddsoddi Cymru sefydlu Angylion Cymru sy’n Ferched:

Angylion benywaidd yn uno i fuddsoddi mewn merched yng Nghymru

Mentergarwyr benywaidd yng Nghymru yn lansio syndicet buddsoddi angel o dan arweiniad merched

Tyfu'r gymuned angylion busnes gyda mwy o fuddsoddwyr benywaidd

Fe wnaethom ddatblygu adnoddau i gefnogi mentergarwyr ifanc, a gellir hidlo ein hastudiaethau achos i ddangos ein buddsoddiadau mewn mentergarwyr ifanc:

Yn ogystal â’n ffocws hyd yma ar fentergarwyr benywaidd a mentergarwyr ifanc, rydym wedi ceisio nodi cyfleoedd eraill i bartneru â sefydliadau, digwyddiadau a gwobrau sy’n dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Roedd y Banc Datblygu yn un o gefnogwyr corfforaethol PRIDE Cymru ym mis Mehefin 2024.

Y Banc Datblygu yw prif noddwr Gwobrau Merched Cymraeg Mewn Busnes Llais Cymru, neu'r #GwobrauLlais fel y'i gelwir, sy'n dathlu cyfraniad pwysig merched i fyd busnes yng Nghymru. Mae Gwobrau Llais Cymru yn ddathliad unigryw, cenedlaethol a dwyieithog o ferched mewn busnesau o bob math a phob maint.

Y Banc Datblygu oedd noddwr y Wobr Busnes/Mentergarwraig yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg yn 2018, 2019, 2020 a 2021.

 

Ein hymrwymiadau cydraddoldeb

Mae ein cynllun corfforaethol ar gyfer y cyfnod 2022-27 yn amlinellu ein meysydd allweddol o ffocws cydraddoldeb:

 

Thema eangGweithgaredd penodolCynnydd a'r maes ffocws nesaf
Systemau a phrosesau monitro amrywiaethAdolygu’r ffurflen monitro amrywiaeth fel rhan o’r prosiect gwaith i ystyried sut mae ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yn cael eu gwreiddio ymhellach yn ein prosesau.

Mae'r ffurflen monitro amrywiaeth wedi'i hadolygu a'i diweddaru.

Parhau i adolygu'r ffurflen monitro amrywiaeth yn rheolaidd fel rhan o'n prosiect taith cwsmer.

Brand a chyfathrebuSicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o waith adnewyddu brandio 2022 ac wedi’i ymgorffori yn ein cyfathrebiadau.Gwaith adnewyddu brand wedi'i gwblhau a'i roi ar waith.
Adolygu hygyrchedd ein dogfennau a diweddaru ein datganiad hygyrchedd.Parhaus.
CwsmeriaidTrwy ymgysylltu uniongyrchol, nodi cymorth ychwanegol sydd ei angen ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gweler yr adran mentrau cynharach sy'n amlinellu'r gwaith penodol yr ydym wedi'i wneud i gefnogi menywod a mentergarwyr ifanc yn well.

Ein maes ffocws presennol yw sut y gallwn gefnogi  mentergarwyr o Leiafrifoedd Ethnig yn well.

Hyrwyddo'r diwylliant mentergarol trwy ymgysylltu â rhaglenni sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc.Gweler yr adran mentrau cynharach.
Parhau i weithio gyda rhwydweithiau a phartneriaid i gyrraedd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.Parhaus.