Cynorthwyydd Sicrhau Risg

Rydym yn chwilio am Cynorthwyol Sicrhau Risg sydd wedi’i leoli naill ai yn Wrecsam neu yng Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd                                                        

Bydd y Cynorthwyydd Sicrhau Risg yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynnal Fframwaith Rheoli Risg cadarn ar gyfer y grŵp cyfan. Yn bennaf, bydd hyn yn golygu arwain y gwaith maes ar raglen barhaus o brofi rheolaethau ar draws Banc Datblygu Cymru. Byddwch chi hefyd yn cefnogi’r gwaith o oruchwylio ac adrodd ar risgiau busnes a gweithgareddau sicrwydd.

Bydd y gwaith hwn yn rhoi sicrwydd i archwilwyr mewnol ac allanol, y Pwyllgor Archwilio a Risg a rhanddeiliaid eraill bod polisïau, gweithdrefnau a rheolaethau sy’n ymwneud â Rheoli Risg wedi cael eu cynllunio’n briodol a’u bod yn gweithredu’n effeithiol.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Cynllunio a chwblhau profion rheolaidd ar reolaethau mewnol, a gwneud newidiadau i gofrestrau risg a sgoriau risg yn eu sgil.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y Grŵp i adfer unrhyw ddiffygion rheoli mewn ffordd sy’n gyson ac yn effeithiol o ran amser.
  • Sicrhau bod camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith a bod unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio ar draws Banc Datblygu Cymru.
  • Helpu’r Swyddog Gweithredol Sicrhau Risg i ddatblygu a chynnal Fframwaith Sicrwydd Rheolaeth cadarn ar gyfer y Grŵp.
  • Helpu i baratoi adroddiadau i’r Bwrdd a’r Rheolwyr mewn perthynas â chofrestrau risg, osgo rheoli, KRIs ac ati.
  • Cyfrannu at ddatblygiad parhaus y Fframwaith Rheoli Risg gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau.
  • Helpu i gynnal a gweithredu’r Fframwaith Rheoli Risg Trydydd Parti.
  • Cefnogi gweithgarwch sganio’r gorwel y Banc Datblygu drwy ddefnyddio ymchwil annibynnol a gyda chymorth darparwyr allanol.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel y’u diffinnir gan y Rheolwr Sicrhau Risg i fodloni anghenion gweithredol y tîm Cydymffurfio.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
  • Sgiliau dylanwadu effeithiol a sgiliau rheoli gwrthdaro, lle bo angen.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o fanteision Fframwaith Rheoli Risg cadarn.
  • Profiad o ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros dasgau a phrosiectau o’r camau cyntaf hyd at eu cwblhau.
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn ar lafar ac ar bapur.
  • Cymhelliant a phenderfyniad i gwblhau gwaith i safon uchel.
  • Hyderus yn eich gallu eich hun i wneud penderfyniadau.
  • Sgiliau trefnu a gweinyddu da.
  • Yn gallu cymell eich hun ac yn gallu gweithio fel aelod o dîm.
  • Rhoi sylw i fanylion.
  • Yn hyddysg ym maes TG ac yn gallu defnyddio Pecynnau Microsoft Office.
  • Sgiliau dadansoddi cadarn; yn gallu gweithio gyda data a defnyddio Excel.

Dymunol 

  • Profiad o fframweithiau sicrhau neu brofi risgiau a rheolaethau
  • Profiad o weithgareddau archwilio sy’n eich galluogi i brofi rheolaethau a deall risgiau allweddol ar draws proses.
  • Yn gyfforddus wrth adolygu a diweddaru dogfennau polisi a gweithdrefnau.
  • Profiad o ddefnyddio technegau ymchwil i gasglu gwybodaeth berthnasol
  • Yn gallu cynnig sesiynau briffio a chyngor yn dilyn gwaith ymchwil.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio