Caerdydd

Map of Cardiff

Cyrraedd ein swyddfeydd yng Nghaerdydd

Rydyn ni reit yng nghanol y ddinas - yn agos at brif ardal siopa Caerdydd a phob trafnidiaeth gyhoeddus.

Ein cyfeiriad yw Llawr 7, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ

Os ydych chi'n gyrru, mae maes parcio NCP gyferbyn - dilynwch gyfarwyddiadau ar gyfer Maes Parcio Stryd Pellett. O'r fan honno, cerddwch ar draws y Bont (fe’i gelwir yn 'Smart Bridge'). Ni yw'r adeilad cyntaf ar y dde. Mae'r fynedfa yn y cefn.

Os ydych chi'n cyrraedd ar drên, yr orsaf agosaf yw Caerdydd Canolog. Oddi yno gallwch naill ai gerdded 5-10 munud i'r swyddfa, neu ddal tacsi o'r tu allan i'r orsaf drenau.