Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Wrexham

Map of Wrexham

Cyrraedd ein swyddfeydd yn Wrecsam

Swyddfa Wrecsam yw ein pencadlys cofrestredig. Yr orsaf drenau agosaf i'r swyddfa yw Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, mae'n cymryd 5-munud os ydych yn gyrru oddi yno mewn car neu 10-15 munud i'w gerdded. I'n cyrraedd trwy ddefnyddio'r ffordd, dilynwch Ellice Way ar Barc Busnes Iâl a chymryd y trydydd troad i'r chwith ac mae'r swyddfa yn union ar y chwith. Mae'n hawdd cyrraedd at Ellice Way oddi ar yr A483, sef ffordd osgoi Wrecsam, a hon yw'r ffordd fynediad ar gyfer Gwesty'r Ramada Plaza. Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar gael y tu allan i'r swyddfa.

Ein cyfeiriad yw: Uned J, Pentref Busnes Iâl, Ellice Way, Wrecsam, LL13 7YL

 

Mynediad Anabl

  • Darperir mynediad heb risiau a drysau â chymorth pŵer yn y brif fynedfa
  • Mae mannau parcio hygyrch dynodedig ar gael, cysylltwch â ni i gadw lle os gwelwch yn dda
  • Mae ein swyddfa ni ar y llawr gwaelod
  • Mae toiledau hygyrch ar gael 
  • Rydym yn croesawu cwn cymorth