Dirprwyaeth Masnach y Senedd ar Dyfu Canolbarth Cymru

Ar 31 Ionawr, bydd Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion yn ymweld â'r Senedd fel rhan o Ddirprwyaeth Masnach Tyfu Canolbarth Cymru.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w fynychu ac fe'i cynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth am Ganolbarth Cymru, gan ddangos cefnogaeth dros gynyddu ffyniant yn y rhanbarth.

Noddwyd y digwyddiad gan Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys Russell George, Kirsty Williams ac Elin Jones, a bydd Ken Skates y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn mynd annerch y gynulleidfa.

Bydd busnesau yn cael y cyfle i ymgysylltu â gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn Llywodraeth Cymru, a byddant hefyd yn gallu cael cyngor ac arweiniad busnes gwerthfawr gan sefydliadau megis Busnes Cymru, Croeso Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach a Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru.

Mae Banc Datblygu Cymru yn annog cymaint o fusnesau â phosib ar hyd a lled Cymru i fynychu’r digwyddiad a chanfod beth sydd gan y Canolbarth i'w gynnig.

Bydd Gaynor Morris, Swyddog Buddsoddi gyda'n tîm micro-fenthyciadau ar gael i rwydweithio ar y diwrnod a siarad am yr arian cyllido sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddechrau a thyfu.

Dysgwch fwy am y digwyddiad a chofrestru yn fan hyn.  

Pwy sy'n dod