Dosbarth Meistr Twf Busnes

Mae'r prosiect Dosbarth Meistr Twf Busnes Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau sy'n tyfu a darpar entrepreneuriaid yn Ne Cymru drwy gyfres o sesiynau rhyngweithiol yn canolbwyntio ar bynciau busnes allweddol.

Mae Alun Thomas, ein rheolwr rhanbarthol buddsoddiadau newydd ar gyfer gorllewin Cymru, yn un o'r panel o arbenigwyr twf busnes sydd wedi sefydlu a chynnal y prosiect, ynghyd ag arbenigwyr o Gerald Thomas, Cyfrifwyr Siartredig, Thomas Carroll Group ccc, Banc Lloyds, Cyfreithwyr Douglas-Jones Mercer a Busnes Cymru.

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Y Goleudy yn Llanelli, ac fe fydd yn canolbwyntio ar 'Ddatblygu Cynhyrchion a Gwasanaethau'. Fe fydd yna gyfle i'r rhai sy'n mynychu rannu eu straeon a'u profiadau eu hunain, ac i gael mewnwelediad a chyngor gan fusnesau eraill.

Bydd lluniaeth ar gael o 8.30 cyn dechrau yn ffurfiol am 9yb. Bydd cyfle os dymunwch i rwydweithio a thrafod ymhellach ar ôl y digwyddiad.

Cewch wybod mwy am y sesiwn yn fan hyn.

Pwy sy'n dod

Alun Thomas
Rheolwr Rhanbarthol