Dosbarth Meistr Twf Busnes

Mae prosiect Dosbarth Meistr Twf Busnes Cymru yn darparu cefnogaeth i fusnesau sy'n tyfu ac entrepreneuriaid uchelgeisiol yn Ne Cymru trwy gyfres o sesiynau rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar bynciau busnes allweddol.

Mae Alun Thomas, ein rheolwr rhanbarthol buddsoddiadau newydd ar gyfer gorllewin Cymru, yn un o'r panel o arbenigwyr twf busnes sydd wedi sefydlu a chynnal y prosiect, ynghyd ag arbenigwyr o Gyfrifwyr Siartredig Gerald Thomas, Grŵp Thomas Carroll plc, Banc Lloyds, Cyfreithwyr Douglas-Jones Mercer a Busnes Cymru.

Mae pedwerydd cylch y prosiect yn dechrau ar y 13eg o Fedi, gyda sesiwn ar ‘Reoli Risgiau Busnes’. Bydd hyn yn helpu busnesau i ddod â phrosesau i mewn i nodi, herio a rheoli lefel yr amlygiad i risg.

Bydd lluniaeth ar gael o 8.30 cyn i'r sesiwn ddechrau yn ffurfiol am 9yb. Bydd cyfle dewisol i rwydweithio pellach ar ôl y digwyddiad.

Cewch wybod mwy yn fan hyn.

Pwy sy'n dod

Alun Thomas
Rheolwr Rhanbarthol