Fforwm Polisi Cymru 2023

Y llwybr at allyriadau sero-net fydd y drafodaeth yn y gynhadledd hon, bydd hefyd yn asesu dyfodol Cymru a sut bydd angen iddi newid er mwyn cyrraedd ei nodau. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050 neu'n gynt, strategaeth Arloesedd Cymru, yn ogystal â thrafod Cynllun Ymgysylltu Newid Hinsawdd Cymru a chynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig. Mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle i drafod y nod allyriadau sero-net ar draws sectorau megis amaethyddiaeth, ynni, gwres a thrafnidiaeth gyda rhanddeiliaid a llunwyr polisïau. Bydd pynciau pellach yn cynnwys gweithio ar Gynllun Addasu Newid Hinsawdd Cenedlaethol 2024 a lefelau ymgysylltu presennol y cyhoedd yng Nghymru.

Bydd pedwar siaradwr gwadd allweddol, sef Claire Pillman – Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, James Tarlton – Uwch Ddadansoddwr Cyllidebau Carbon ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Janet Finch-Saunders - Gweinidog Cysgodol Newid Hinsawdd Ceidwadwyr Cymru ac Andy Billcliff – Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Portffolio Ynni Menter Môn Morlais.

Pwy sy'n dod