Gweinyddydd cymorth buddsoddi

Rydym yn recriwtio ar gyfer dau weinyddydd cymorth buddsoddi - un parhaol ac un ar Gontract Cyfnod Penodol 12 mis - wedi'i leoli yng Nghymru. Mae opsiynau gweithio hyblyg yn cynnwys gweithio rhan amser a hybrid sy'n eich galluogi i gyfuno gweithio gartref ac o'n swyddfeydd.

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod y lefel uchaf o fuddsoddiad a chymorth gweinyddol ar gyfer pob agwedd ar weithgarwch buddsoddi yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn broffesiynol.

Darparu cymorth gweithredol arbenigol wrth gyflawni datblygiad parhaus a swyddogaethau dydd-i-ddydd y Timau Buddsoddi a Phortffolio.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Gan weithio i’r timau Buddsoddi a Phortffolio, bydd gofyn i chi ddarparu cymorth weinyddol effeithiol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cynorthwyo'n agos gyda'r broses fuddsoddi a chwblhau bargeinion gan gynnwys cydlynu dogfennaeth gyfreithiol a thynnu i lawr a gwiriadau credyd cyn tynnu i lawr. Yn benodol, darparu cefnogaeth ar gyfer casglu a gwirio ffeiliau buddsoddi cyn eu tynnu i lawr.
  • Paratoi dogfennau, adroddiadau, cofnodion ac agendâu i gefnogi cyfarfodydd yn ôl yr angen.
  • Darparu rôl gydlynu ganolog gan sicrhau deialog barhaus gydag ymgeiswyr ac o fewn yr adran o ran cynnydd a gweithgaredd.
  • Rheoli'r holl ddogfennau buddsoddi a systemau cipio data gan gynnwys CRM, SharePoint a systemau cynllunio.
  • Cymryd cyfrifoldeb am brosesu ariannol gan gynnwys codi archebion prynu, prosesu anfonebau.
  • Cydlynu presenoldeb mewn cyfarfodydd, seminarau a digwyddiadau priodol.
  • Datblygu dros amser ddealltwriaeth a phrofiad o bob agwedd ar y broses fuddsoddi.
  • Lle bo angen, bod yn gyfrifol am sgrinio ceisiadau yn y camau cychwynnol. Ymgymryd ag ymchwil er mwyn gwneud asesiad ac ymateb yn ffurfiol i gleientiaid, gan ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen. 
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Cydlynydd Cymorth Buddsoddi i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol 

  •  Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf yn ysgrifenedig ac ar lafar
  •  Sgiliau trefnu a gweinyddol
  •  Yn meddu ar hunan-gymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  •  Hyderus yn eich sgiliau a’ch gallu i wneud penderfyniadau eich hun
  •  Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau
  •  Ymagwedd benderfynol tuag at gwblhau tasgau i safon uchel ac i derfynau amser heriol
  • Llygad graff am fanylion
  • Ymagwedd ymrwymedig tuag at ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd
  • Addysg i safon dda o addysg gyffredinol – TGAU, NVQ Lefel 2/3 neu safon gyfatebol
  • Profiadol a medrus mewn cymwysiadau TG/PC safonol gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint.

Dymunol 

  • Yn gallu siarad Cymraeg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd Busnes yng Nghymru
  • Sgiliau Cyflwyno
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau - Hydref 20