Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Gweinyddydd datblygu busnes & dadansoddi

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio gweinyddydd datblygu busnes & dadansoddi a fydd yn seiliedig yn Wrecsam neu yn Caerdydd.

Pwrpas y swydd

Y Gweinyddydd Datblygu Busnes a Dadansoddi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y lefel uchaf o gymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu i'r tîm.

Gan gydweithio'n agos â'r Dadansoddydd Busnes, bydd y Gweinyddydd Datblygu Busnes a Dadansoddi yn gyfrifol am gynnal ansawdd data yn y system Rheoli Perthynas Cwsmeriaid (RhPC - a adwaenir ar brydiau fel CRM) a chynorthwyo gydag amrywiaeth eang o adroddiadau i'r Grŵp.

Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys cyflenwi amgen ar gyfer y Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmer; gan ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid drwy gyfrwng y llinell ymholiadau sy'n dod i mewn a phrosesu ceisiadau ar-lein.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Cefnogi'r Dadansoddydd Busnes gyda'r gwaith o adrodd am fetrics buddsoddi i'r Grŵp a chyflawni gwell gweithdrefnau adrodd arferol.
  • Ymgymryd ag archwiliadau RhPC misol ar gyfer y Grŵp.
  • Cynnal ansawdd data o fewn y system RhPC, gan sicrhau cywirdeb data trwy lwyr lanhau cofnodion anghywir a / neu ddyblygiadau yn rheolaidd.
  • Cyflenwi'n ffurfiol ar ran y Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid er mwyn darparu cymorth cwsmer o safon uchel; trin ymholiadau cwsmeriaid trwy'r llinell ymholiadau sy'n dod i mewn, y ffurflenni 'cysylltu â ni' a negeseuon e-bost i'r blwch post ymholiadau
  • Prosesu ceisiadau ar-lein a gyflwynir trwy'r porth gwneud cais gan sicrhau bod cofnodion RhPC yn cael eu creu a'u diweddaru a bod ceisiadau'n cael eu cyfeirio at y timau cywir yn unol â Chytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG).
  • Paratoi dogfennaeth, adroddiadau, cofnodion ac agendâu i gefnogi cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r adran Gyfathrebiadau.
  • Cynnal cyfrifoldeb am greu cyfrifon a rheoli cyfrineiriau ar y system cyfeirio credyd.
  • Cynorthwyo'r Cyfarwyddwyr Buddsoddi trwy gyfrwng tasgau gweinyddol a gwaith prosiect ad hoc.
  • Unrhyw dasgau eraill fel y'u diffinnir gan y Rheolwr Datblygu & Dadansoddi Busnes i ddiwallu anghenion gweithredol y busnes.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol a gweithio mewn amgylchedd swyddfa brysur
  • Sgiliau MS Office, yn enwedig Excel
  • Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Sgiliau rhyngbersonol da ac ymagwedd agored a hawddgar ac agwedd gadarnhaol 'gallaf / gallwn wneud hyn'
  • Llygad graff am fanylion
  • Trefnus a strwythuredig tra'n hyblyg ac yn ymatebol i newid
  • Sgiliau trefniadol personol da
  • Y gallu i flaenoriaethu yn ôl anghenion newidiol y busnes a gweithio i derfynau amser.

Dymunol

  • Siaradwr Cymraeg ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Profiad gyda system Rheoli Perthynas Cwsmeriaid Microsoft Dynamics
  • Profiad o weithio mewn rôl sy'n wynebu'r cwsmer gyda ffocws ar ddarparu cefnogaeth o safonau uchel

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais