Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Gweithdy cynllunio Busnes a chynnig syniadau

Bydd Zoe Reich, swyddog buddsoddi yn ein tîm mentrau technoleg yn mynychu'r gweithdy cynllunio busnes a chynnig syniadau ar 30 Tachwedd.

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth ac fe'i harweinir gan Jeff Bartlett o Nurture Ventures. Bydd y digwyddiad ar ffurf dosbarth meistr ac fe roddir cyngor arbenigol ar ddrafftio cynllun busnes, tactegau gwerthu a marchnata, arloesedd a rheoli cynnyrch, technegau cynnig syniadau a pharodrwydd buddsoddi cynyddol.

Sylwch fod y lleoedd ar gael yn gyfyngedig. E-bostiwch innovate@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621809 am ragor o wybodaeth.

Pwy sy'n dod