Gweithredwr Portffolio

Rydym yn chwilio am Weithredwr Portffolio i weithio yng Ngogledd Cymru

Pwrpas y swydd

Os cafodd buddsoddiadau eu nodi fel rhai sydd “mewn perygl”, prif gyfrifoldeb y tîm Risg ac Ailstrwythuro yw datblygu dealltwriaeth fanwl o gleientiaid portffolio a meithrin pherthynas waith agos â nhw, a sicrhau’r elw mwyaf posibl ar y cyfryw fuddsoddiadau.

Gweithredu fel Rheolwr Cyfrif a phrif bwynt cyswllt ar gyfer portffolio o fuddsoddiadau sy’n tanberfformio. Mynychu a chynnal cyfarfodydd gyda chwmnïau portffolio fel y bo'n briodol. Datblygu a gweithredu strategaethau adfer.

Cefnogi gweithgareddau timau portffolio eraill ar draws Grŵp y Banc Datblygu. Pan fo buddsoddiadau’n dangos arwyddion cynnar eu bod dan straen, gweithio’n agos gyda chydweithwyr a busnesau cleientiaid i ganfod achosion y tanberfformio a dewis a gweithredu cynlluniau newid cyfeiriad.

Lle bo'n briodol, arfarnu a chyflwyno ceisiadau am gyllid gan y Cynllun R&R ar gyfer sancsiynu mewnol.

Drwy’r dulliau hyn, a gan droi at gymorth strategol a gweithredol trydydd parti drwy ddefnyddio/cysylltu â Rheolwyr Dros Dro, Cyfarwyddwyr Anweithredol ac Ymarferwyr Ansolfedd, rheoli a lleihau’r golled ariannol i’r Banc Datblygu oddi wrth ei fuddsoddiadau sydd “mewn perygl”.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Bod yn gyfrifol am reoli portffolio o fuddsoddiadau y nodwyd eu bod mewn perygl o arwain at golled ariannol i Grŵp y Banc Datblygu.

  • Adolygu buddsoddiadau sy’n tanberfformio ac sy’n rhan o dimau portffolio eraill ar draws Grŵp y Banc Datblygu.

  • Datblygu cynlluniau gweithredu priodol ar gyfer buddsoddiadau sy’n tanberfformio a/neu fuddsoddiadau sydd “mewn perygl”, gyda chytundeb y Rheolwr Portffolio/Prif Swyddog Risgiau i sicrhau’r elw mwyaf posibl i Grŵp y Banc Datblygu, gan gynnwys gweithredu cynlluniau newid cyfeiriad, strategaethau ymadael a chamau adfer, fel y bo’n briodol.

  • Cynnal cyswllt parhaus â busnesau cleientiaid yn y portffolios Risg ac Ailstrwythuro i sicrhau dealltwriaeth gyfredol o’u hamgylchiadau, ac i feithrin perthnasoedd cynhyrchiol gyda’u rheolwyr. Rhaid i strategaethau cyswllt gael eu teilwra’n unol ag amgylchiadau’r busnes dan sylw.

  • Lle bo’n briodol, cyflwyno cymorth strategol, ariannol, gweithredol neu gymorth arall trydydd parti i fusnesau cleientiaid, gan ddefnyddio cysylltiadau â Rheolwyr Dros Dro, Cyfarwyddwyr Anweithredol, Ymarferwyr Ansolfedd, a’r gymuned cynghori busnesau ehangach.   

  • Mynychu cyfarfodydd gyda chleientiaid a chyfryngwyr i sicrhau bod buddsoddiadau Banc Datblygu Cymru yn cael eu hadennill yn llwyddiannus.

  • Llunio a chynnal dogfennau cywir ar gyfer gweithgareddau’r holl gwmnïau sy’n gleientiaid.

  • Asesu a monitro gwybodaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth ariannol, er mwyn paratoi’r adroddiadau angenrheidiol ar berfformiad cwmnïau portffolio.

  • Lle bo’n briodol, gwerthuso buddsoddiadau pellach posibl mewn cwmnïau sydd dan straen. Cyflwyno argymhellion cytbwys i uwch reolwyr.

  • Cefnogi ymgyrch y Grŵp i wella perfformiad buddsoddiadau yn barhaus. Adnabod ac adrodd ar unrhyw themâu/materion sy’n codi dro ar ôl tro o ddadansoddi’r amgylchiadau sy’n arwain at gleientiaid sy’n tanberfformio/dan straen er mwyn llywio strategaethau Rheoli Portffolios a Buddsoddiadau i’r dyfodol.

  • Lle bo angen, cysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes ansolfedd.

  • Sicrhau bod unrhyw ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn glynu wrth y safonau uchaf o ran gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.

  • Unrhyw dasg arall y gallai’r Rheolwr Portffolio/ Cyfarwyddwr - Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol ei diffinio i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran, gan sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Grŵp yn cael ei gynnal bob amser.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Yn gallu cymell eich hun, gweithredu’n rhagweithiol a gweithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth.

  • Yn gyfforddus yn delio â gwaith sensitif i gleientiaid lle mae amser yn hollbwysig.

  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith a gweithio’n effeithiol dan bwysau a chyrraedd targedau.

  • Cymhelliant a phenderfyniad i gwblhau gwaith o ansawdd.

  • Dealltwriaeth o gyfraith cwmnïau a chyfraith ac ymarfer ansolfedd.

  • Gwybodaeth ymarferol gadarn o’r gyfraith sy’n ymwneud â gweithgarwch ac ymarfer ym maes Cyllid.

  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu da Y gallu i feithrin perthynas waith gynhyrchiol gyda busnesau cleientiaid sydd dan straen.

  • Sgiliau datrys problemau a negodi cadarn.

  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol neu amgylchedd rhifog tebyg ac, yn benodol, ymwybyddiaeth neu brofiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol.

  • Yn hyddysg ym maes TG/cyfrifiaduron ac yn gallu defnyddio pecynnau Microsoft Office.

  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant.

  • Trwydded Yrru.

Dymunol

  • Yn siaradwr Cymraeg

  • Ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â busnesau bach a chanolig yng Nghymru

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda