Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Gwobrau Meistr Adeiladwyr FMB Cymru 2023

Mae'r Gwobrau Meistr Adeiladwyr, sy'n cael eu cynnal bob dwy flynedd, yn dathlu crefftwaith o ansawdd uchel, gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid a rhagoriaeth adeiladu a ddarperir gan Feistr Adeiladwyr ledled y DU. O gartrefi preswyl newydd i ddatblygiadau masnachol mawr, mae Meistr Adeiladwyr yn helpu i adeiladu dyfodol gwell i'r DU bob blwyddyn ac mae'r gwobrau'n gyfle i aelodau arddangos eu gwaith caled a derbyn cydnabyddiaeth gan y diwydiant.

Rydym yn noddi seremoni Gwobrau Meistr Adeiladwyr FMB Cymru a gynhelir ddydd Gwener 5 Mai 2023 yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd. Yma bydd enillwyr y categori o Gymru yn cael eu cyhoeddi, cyn mynd ymlaen i gystadlu fel rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y seremoni genedlaethol fis Medi 2023.

Pwy sy'n dod