Ail agor eich busnes ar ôl y cyfnod cloi

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
waitress wearing mask

Mae llacio'r cyfnod cloi wedi dechrau yng Nghymru, a chyn bo hir bydd llawer o fusnesau yn agor eu drysau eto. Ond mae’r dirwedd y maent yn ail agor ynddi yn wahanol iawn i’r hyn ydoedd o’r blaen, ac mae angen i berchnogion busnes gynllunio’n drylwyr er mwyn llywio’r heriau a gyflwynir yn sgil y ‘normal newydd’ hwn. Os ydych chi mewn sefyllfa i ail agor eich busnes, dyma dri awgrym a fydd yn eich helpu i weithredu'n ddiogel ac yn llwyddiannus mewn byd ar ôl-coronafirws.

1. Rhowch bobl yn gyntaf

Dylai gwneud eich adeilad yn ddiogel ar gyfer pobl fod yn brif flaenoriaeth i chi wrth ail agor. Yng Nghymru, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyflogwyr gymryd pob mesur rhesymol i leihau trosglwyddiad y firws. Bydd hyn hefyd yn hanfodol er mwyn rhoi hyder i'ch gweithwyr a'ch cwsmeriaid ddychwelyd.

Yn gyntaf a phwysicaf oll, dylai unrhyw un sy'n gallu gweithio gartref wneud hynny. Felly os gall unrhyw un yn eich busnes chi, fel eich staff cefn tŷ neu eich staff gweinyddol, wneud eu gwaith o bell, yna dylech barhau i alluogi a chefnogi hyn (darllenwch ein blog am awgrymiadau ar sut i reoli gweithwyr o bell). Sicrhewch fod nifer y cydweithwyr sydd ar y safle wedi'u cyfyngu i'r lleiafswm sy'n angenrheidiol i'r cwmni weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol.

Rhaid gweithredu'r rheol pellhau cymdeithasol 2m gyfredol, ochr yn ochr â mesurau eraill, lle bynnag y bo modd. Gall hyn olygu ail-gynllunio'ch adeilad i greu system unffordd, gyda marcwyr ar y llawr ac arwyddion i atgoffa pobl i gynnal eu pellter. Mewn rhai amgylchiadau lle nad yw pellhau cymdeithasol yn ymarferol, yna ystyriwch pa gamau eraill y gallech eu cymryd a fyddai'n lleihau'r risg o drosglwyddo, fel gosod rhwystrau corfforol rhwng pobl, amrywio shifftiau gwaith, neu gyfyngu ar sefyllfaoedd wyneb yn wyneb. Darllenwch Ganllaw llywodraeth Cymru ar fesurau rhesymol ar gynnal pellter corfforol.

2. Cyfathrebwch yn effeithiol

Nid yw'n ddigon bod â mesurau diogelwch ar waith yn unig. Mae angen i chi hefyd gyfathrebu yn eu cylch, ynghyd ag unrhyw newidiadau yn eich gweithrediadau y mae angen i gwsmeriaid, cydweithwyr, gwerthwyr a phartneriaid wybod amdanynt. Gallai hyn gynnwys gwneud addasiadau i oriau agor, archebu apwyntiad neu argaeledd cynnyrch.

Bydd rhai pobl yn bryderus ynghylch dychwelyd, felly bydd cyfathrebu clir a rheolaidd yn allweddol i ennyn hyder a rhoi gwybodaeth i bawb. Dangoswch eich bod wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel trwy fanylu ar y rhagofalon penodol rydych chi'n eu cymryd, fel gosod sgriniau plastig wrth y ddesg dalu, rhoi bylchau rhwng mannau eistedd, neu lanhau arwynebau yn rheolaidd. Dylech hefyd sicrhau bod cwsmeriaid a gweithwyr yn ymwybodol o sut y gallant gadw eu hunain yn fwy diogel, er enghraifft trwy annog taliadau digyswllt neu ddefnyddio glanweithydd dwylo mewn gorsafoedd glanhau.

Defnyddiwch amrywiaeth o sianeli (e-bost, gwefan, cyfryngau cymdeithasol, mewnrwyd, arddangosfeydd corfforol o amgylch eich adeilad, ac ati) i gyfleu'ch cynlluniau ail agor, gyda negeseuon cyson a thryloyw ar draws pob elfen. Mae hefyd yn bwysig bod y cyfathrebu'n digwydd y ddwy ffordd, felly ceisiwch gael cymaint o adborth gwerthfawr ag y gallwch - trwy gynnal sgyrsiau un i un, arolygon dienw, neu arolygon ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft - ac addaswch eich gweithrediadau yn seiliedig ar yr adborth hwnnw.

3. Byddwch yn hyblyg

Mae'r rhain yn amseroedd anrhagweladwy iawn, felly dylech fod yn barod i addasu'n gyflym. Mae'n syniad da creu cynlluniau wrth gefn a sicrhau bod unrhyw gamau ail agor rydych chi'n eu cymryd yn hawdd eu gwrthdroi, rhag ofn y bydd cyfyngiadau'n tynhau yn y dyfodol. Bydd gwneud eich gweithrediadau mor ystwyth â phosibl yn allweddol i ffyniant yn yr amgylchedd hwn - p'un ai trwy newid y ffordd y mae'ch gweithwyr yn gweithio, ymgysylltu â'ch cwsmeriaid mewn ffyrdd newydd a chreadigol, neu hyd yn oed ail ddyfeisio'ch model busnes.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae llawer o fusnesau wedi dangos y gallu i addasu a chydnerthedd rhyfeddol, gan newid eu prosesau gweithio neu eu cynigion cynnyrch er mwyn cadw refeniw i lifo. Datgelodd arolwg gan FfBB Cymru, a gwblhawyd gan 360 o gwmnïau, fod 22% wedi symud tuag at weithio o bell, 17.5% wedi creu presenoldeb ar-lein newydd i ddarparu eu cynhyrchion neu wasanaethau, ac roedd 11% wedi gwneud newidiadau corfforol i'w hadeiladau. Darllenwch rai astudiaethau achos ar fusnesau o Gymru sydd wedi arallgyfeirio yn ystod y broses gloi yn fan hyn.  

Bydd angen i'r gallu hwn i addasu barhau wrth i ni adael y broses gloi. Nid yn unig y bydd yn rhaid i chi ystyried ail agor gyda llai o gapasiti i gadw at reolau pellhau cymdeithasol, ond gall gymryd peth amser i fasnach a hyder cwsmeriaid adeiladu yn ôl i lefelau cyn y cyfnod cloi.

Mae mwy o bobl wedi bod yn siopa ar-lein ers i'r broses gloi ddechrau, ac efallai y bydd yr arferion hyn ymysg defnyddwyr yma i aros yn barhaol. Os ydych chi wedi troi at e-fasnach, cyflenwi neu wasanaethau cwsmeriaid yn codi cynnyrch / archeb, yna fe ddylech feddwl am gynnal a hyd yn oed ehangu'r cynigion hyn i wneud y gorau o'ch ffrydiau refeniw, hyd yn oed ar ôl i chi ail agor eich gwasanaethau yn fewnol. Gwerthuswch sut y gall eich model busnes gael ei effeithio yn y tymor hir. Sut all anghenion ac ymddygiad eich cwsmeriaid newid, a sut allwch chi greu gwerth ar eu cyfer hwy?

Mae presenoldeb cryf ar-lein yn bwysicach nag erioed, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, canolbwyntiwch ar sut y gallwch wella hyn a sicrhau profiad da i gwsmeriaid ar draws eich sianeli digidol.

 

I gael mwy o wybodaeth am ail ddechrau ac ail agor eich busnes, ewch i weld Busnes Cymru. Byddwn hefyd yn cyhoeddi mwy o bostiadau blog dros yr wythnosau nesaf ar bynciau sy'n gysylltiedig â'r coronafirws, felly cadwch lygad ar ein hadran Newyddion, neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.